Deunydd mewn tŷ oedd achos ffwydrad Llanbradach

Llanbradach
Image caption Roedd y gwasanaethau brys yn parhau ar y safle fore Mercher

Deunydd o fewn yr adeilad wnaeth achosi'r ffrwydrad mewn tŷ yn Llanbradach ger Caerffili, yn ôl profion cychwynnol gan Heddlu Gwent.

Cafodd pump o bobl eu cymryd i'r ysbyty yn dilyn y ffrwydrad ar ystâd Dan-y-Darren am 17:30 ddydd Llun.

Erbyn bore Mercher, roedd un dyn yn dal mewn cyflwr difrifol, ond sefydlog, yn yr ysbyty.

Mae tri pherson arall yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty, ac un person wedi cael ei ryddhau.

Image caption Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dan-Y-Darren yn Llanbradach brynhawn Llun

Yn ôl Heddlu Gwent, mae'r ffrwydrad wedi achosi difrod enfawr i'r adeilad, ac mae'r safle yn parhau i fod mewn cyflwr ansefydlog.

Ddydd Mawrth, dywedodd cwmni Wales & West Utilities nad problem nwy oedd achos y ffrwydrad.

Straeon perthnasol