Gorsedd seremoni Cadeirio 2018 'yn llawn'

Bae Caerdydd Image copyright Getty Images
Image caption Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 3-11 Awst eleni

Bydd Gorsedd y Beirdd yn llawn dop yn ystod seremoni'r Cadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ar ôl i'r Brifwyl gadarnhau nad oes llefydd ar ôl.

Mae aelodau'n cofrestru ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau'r Orsedd yn yr Eisteddfod bob blwyddyn, ac yn ôl yr Arwyddfardd, Dyfrig ab Ifor, mae'r ymateb eleni wedi bod yn "ardderchog".

"Seremoni'r Cadeirio sydd fwyaf poblogaidd bob tro," meddai, "ond mae nifer yr aelodau sydd wedi datgan eu hawydd i fod yn rhan o'r Orsedd eleni yn arbennig iawn."

Yn ôl y Brifwyl, digwyddodd hyn y llynedd hefyd yn Eisteddfod Ynys Môn.

Mae'r Brifwyl hefyd yn rhybuddio aelodau o'r orsedd sy'n dymuno cofrestru i gymryd rhan yn y seremoniau eraill i wneud hynny yn fuan, am fod y llefydd yn "prysur lewni".

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 3-11 Awst 2018.

Straeon perthnasol