Galw am gorff cenedlaethol i ddarparu addysg cerdd

Gwers gerdd Image copyright Getty Images

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau addysg cerdd i gorff cenedlaethol hyd braich.

Yn ôl aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, mae angen "dull newydd radical i achub y sector rhag argyfwng a achosir gan doriadau parhaus i gyllid a symudiadau i guddio'r craciau".

Mae argymhelliad arall mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ym Mae Caerdydd ddydd Iau yn galw am ganolbwyntio mwy ar gerddoriaeth gyfoes a phoblogaidd gyda phlant, "er bod genres mwy traddodiadol fel cerddoriaeth glasurol a cherddorfaol yn parhau i fod yn hollbwysig".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "bwysig cydnabod camau i ganfod ffynonellau arian eraill i dalu am addysg cerdd, gan gynnwys ein buddsoddiad o £1m i gronfa Anthem".

'Diffyg arweinyddiaeth'

Mae adroddiad y pwyllgor, sydd ag 16 o argymhellion, yn cyfeirio at dystiolaeth bod plant yn magu hyder a sgiliau gwerthfawr y tu hwnt i'r byd cerddorol wrth ddysgu chwarae offerynnau cerdd mewn ysgol.

Mae'r sgiliau hynny'n cynnwys manteision dyfalbarhad, gwaith tîm ac ymarfer.

Ond clywodd aelodau hefyd fod toriadau ariannol a "diffyg arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru" yn achosi gwahaniaethau sylweddol yn y ddarpariaeth ar draws Cymru.

Mae'r pwyllgor yn nodi datblygiadau cadarnhaol fel y rhaglen Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, Amnest Offerynnau Cerdd Llywodraeth Cymru, a chynllun sy'n rhoi £10,000 y flwyddyn i bob awdurdod lleol ar gyfer prynu offerynnau cerddorol.

Ond mae'n cytuno â thystiolaeth gan rai cyfranwyr a ddywedodd, "cystal ag ydyw, nid yw'n agos at yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd".

Wrth awgrymu sefydlu corff cenedlaethol hyd braich i ddarparu gwasanaethau cerdd mewn addysg, mae'r pwyllgor yn argymell:

  • Patrwm penodol ar gyfer darpariaeth pob rhanbarth a chyllid craidd gan Lywodraeth Cymru;
  • Dylai'r corff sicrhau cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion a staff y sector addysg cerddoriaeth, beth bynnag eu lleoliad a'u cefndir cymdeithasol;
  • Fel cam tymor byr, bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu'n "sylweddol" ar frys y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prynu offerynnau cerdd a'u dosbarthu;
  • Cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar integreiddio a hybu'r gwaith o addysgu mathau llai traddodiadol o gerddoriaeth;
  • Annog sefydlu ensembles a chystadlaethau cenedlaethol yn seiliedig ar roc a phop.
Image caption Dywed Bethan Sayed ei bod wedi cael profiad personol o werth gwersi cerdd yn yr ysgol

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed AC ei bod yn "angerddol ynglŷn â'r angen dybryd i gynnal a datblygu cerddoriaeth yng Nghymru... fel cerddor a ddaeth drwy'r system addysg cerddoriaeth.

"Rydym o'r farn bod angen i ni ddod o hyd i atebion radical yn wyneb toriadau parhaus i'r gwasanaethau hyn.

"Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â'r diffygion a sicrhau cysondeb ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob plentyn, waeth lle maen nhw'n byw na beth yw eu cefndir ariannol, yn cael yr un cyfle i ddatblygu i ragoriaeth.

"Mae'r amser wedi dod, nid i guddio'r craciau, ond i roi digon o adnoddau a chyfeiriad clir i'r sector."

'Canfod ffynonellau eraill'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "bwysig cydnabod y camau i ganfod ffynonellau eraill o arian ar gyfer addysg cerdd yng Nghymru, gan gynnwys ein buddsoddiad o £1m yng nghronfa Anthem - cronfa gwaddol cerdd arloesol".

"Mae hyn ynghyd â'n Hamnest Offerynnau Cerdd yn gymorth i blant gael mynediad i gyfleoedd cerddorol newydd ac i ddatblygu eu sgiliau a thalentau."

Ychwanegodd gweinidogion y bydden nhw'n gweithio gyda'r pwyllgor i "benderfynu'r ffordd orau o ddefnyddio'r £2m sydd wedi ei glustnodi i addysg cerdd yn y gyllideb - fel y cytunwyd gyda Phlaid Cymru - ac i adeiladau ar drafodaethau yr ydym eisoes wedi eu cael gyda chadeirydd y pwyllgor".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol