Rebecca John: Y Gymraeg a fi - mae'n bersonol

Mae Rebecca John yn wyneb cyfarwydd i wylwyr newyddion Saesneg BBC Cymru.

Ond efallai nad ydych chi'n ymwybodol fod Rebecca yn ddysgwr Cymraeg.

Yma, mae'n ceisio egluro ei pherthynas â'r Gymraeg a'i hymdrech i ad-ennill iaith ei mam-gu.


Image copyright Rebecca John
Image caption Rebecca gyda'i chydweithiwr yn y BBC, a'r cyd-ddysgwr Cymraeg, Derek Brockway, yn mwynhau yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015

Ffrogiau perffaith, lliwgar, gyda hetiau, bagiau llaw a menig i gyd-fynd. Nid y briodas frenhinol, ond Capel Calfaria yng Nghlydach yn y saithdegau.

Ro'n i yna gyda fy mam-gu Mary John, cyn-athrawes gynradd a Chymraes Cymraeg.

Mi ges i'n syfrdanu gan y gwisgoedd Sul gorau: Ro'n nhw'n edrych fel sêr Hollywood i fi. Ro'n i'n dwli ar sŵn yr iaith felodaidd a'r emynau, ond yr unig broblem oedd, bo' fi'n deall dim ond ychydig o eiriau ar y pryd, fel Iesu, Duw, yn oesoedd ac Amen!

Wnes i fwynhau'r profiad, ac roedd pawb yn hyfryd i fi, ond ro'n i'n teimlo fel dieithryn, achos do'n i ddim yn gallu deall llawer.

O ran y Gymraeg, dydy be' ddigwyddodd yn fy nheulu i ddim yn anghyffredin, yn anffodus.

Roedd fy mam-gu a nhad-cu yn siarad Cymraeg â fy nhad i, David, ond stopion nhw pan ddechreuodd e yn yr ysgol gynradd Saesneg yn Nghwm Ogwr.

Doedd dim ysgol Gymraeg yna ar y pryd, yn y pedwardegau, ac ro'n nhw'n poeni byddai fe'n drysu. Felly collodd fy nhad ei Gymraeg ar ôl hynny mwy neu lai, yn anffodus.

Image copyright Rebecca John
Image caption Rebecca a'i thad ar ddiwrnod ei phriodas ym mis Gorffennaf 2008. Bu farw David flwyddyn yn ddiweddarach o ganser y brostad

Aeth fy chwaer hŷn, Juliet, a fi i ysgolion Saesneg ym Mhenybont-ar-Ogwr. Roedd hi yn yr un flwyddyn academaidd yn Ysgol Brynteg â Phrif Weinidog Cymru, ac roedd Carwyn Jones yn un o ddim ond ychydig o Gymry Cymraeg yn yr ysgol.

Dwi wedi dwli ar ieithoedd ers i mi fod yn blentyn. Wnes i gymryd gymaint o ieithoedd ar gyfer Lefel O (Ffrangeg, Almaeneg, Lladin yn yr ysgol, a Sbaeneg tu fas i'r ysgol yng Ngholeg Penybont). Wnes i Lefel O Cymraeg tu fas i'r ysgol, flwyddyn yn gynnar.

Roedd fy nhiwtor, Jennice Jones, yn ffrind i'r teulu, ac roedd hi'n hyfryd iawn. Blynyddoedd yn gynt roedd hi wedi bod yn athrawes Gymraeg yn ysgol Secondary Modern Nantymoel, pan oedd fy nhad-cu Cliff 'Pop' John yn brifathro yna. Llysenw'r ysgol oedd Pop John's Academy ar y pryd.



Wyneb y Gymraeg ym Mhenybont oedd Jennice. Erbyn hynny, roedd hi wedi ymddeol ac yn rhoi gwersi Cymraeg i bobl fel fi, pan nad oedd hi'n chwarae golff, neu'n gweithio yn ei siop Gymraeg, Siop yr Hen Bont. Perthynas i'r darlledwr Garry Owen oedd Jennice, ac athrawes ardderchog.

Dylwn i fod wedi cario ymlaen i wneud Lefel A Cymraeg, ond wnes i Ffrangeg, Almaeneg a Saesneg yn lle, ac wedyn fe wnes i astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Pan ddes i nôl i Gymru, ar ôl gwneud cwrs ôl-raddedig Newyddiaduriaeth yn Leeds, ro'n i'n benderfynol o ddysgu Cymraeg yn ôl ar gyfer fy nheulu.

Image copyright Rebecca John
Image caption Tad-cu a mam-gu Rebecca - Cliff a Mary John. Gwnaeth eu penderfyniad i beidio siarad Cymraeg â'u mab siapio bywyd eu hwyres

Wnes i amryw o gyrsiau i oedolion, yn dechrau gyda Wlpan, ac wedyn llawer mwy. Ro'n i'n ystyried dechrau Lefel A Cymraeg fel oedolyn, ond roedd rhaid i fi symud o gwmpas Cymru fel gohebydd newyddion ar gyfer BBC Wales Today. Felly stopiais i fynd i wersi amser maith yn nôl nawr, tua 2001.

O ran dysgu'r Gymraeg, dwi'n teimlo fy mod wedi cyrraedd rhyw lefel gwastad ac mae gwneud cynnydd pellach wedi bod yn boenus o araf.

Dwi ddim yn ymarfer yn ddigon aml, achos dwi ddim yn gwybod popeth a does gen i ddim lot o amser sbâr i ddysgu geiriau ayyb. Felly dwi'n siarad gormod o Saesneg yn y gwaith, a does llawer o bobl ddim yn gwybod bo' fi'n siarad Cymraeg o gwbl.

Mae'n gylch dieflig i rywun fel fi: dipyn o berffeithydd sydd wedi astudio ieithoedd. Dwi'n teimlo fel na ddylen i siarad Cymraeg â phobl CYN i fi ddysgu popeth yn Modern Welsh gan Gareth King, a'r Geiriadur Mawr!

Image caption Wyneb cyfarwydd ar deledu BBC Cymru. Mae Rebecca yn clywed llawer o Gymraeg yn yr ystafell newyddion

Er hynny, dwi'n lwcus achos dwi'n clywed Cymraeg trwy'r dydd yn y gwaith a dwi'n deall bron popeth. Dwi'n clustfeinio'n rhugl!

Hefyd dwi'n gwrando ar BBC Radio Cymru ac ar yr ap ardderchog Say Something in Welsh. Felly dwi'n gwneud pethau i wella, ond mae rhaid i fi wneud llawer mwy.

Dwi byth yn gwybod beth i ysgrifennu ar y Cyfrifiaid am yr iaith Gymraeg. "A allwch ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?" Mae'r cwestiwn yn rhy llydan i fi, achos dwi'n gallu deall, siarad a darllen peth Cymraeg, ond dwi ddim fel Huw Edwards neu Vaughan Roderick, yn anffodus, o ran y Gymraeg!

Image copyright Rebecca John
Image caption Yn ffodus, mae llawer o adnoddau sy'n gallu helpu dysgwyr

Dwi'n aelod o Gôr y Gleision ers wyth mlynedd, ac mae hyn yn helpu fi gyda'r Gymraeg, achos mae llawer o aelodau yn siarad Cymraeg, a 'dyn ni'n canu yn Gymraeg yn aml hefyd.

Ym mis Ebrill wnaethon ni gymryd rhan yng Ngŵyl Gymreig Ontario yng Nghanada. Roedd y Gymanfa Ganu yn Kingston yn atgoffa fi o Gapel Calfaria. Ro'n i'n gallu deall llawer mwy o Gymraeg wrth gwrs nag yn y saithdegau, ac ro'n i'n teimlo llai fel dieithryn.

Image caption Enillodd Côr y Gleision yr ail wobr yn y gystadleuaeth Côr Cymysg dros 45 mewn nifer yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015

Dwi'n rhyfeddu'n aml ble dwi ar y 'sbectrwm Gymraeg', a sut gwnaeth penderfyniad fy mam-gu a nhad-cu, i stopio siarad Cymraeg â fy nhad, newid fy mywyd i hefyd.

Mae fy lleoliad i ar y sbectrwm wedi newid, ond mae 'na ffordd i fynd o hyd. Hoffen i wneud cwrs dwys, i gynyddu fy hyder i ddechrau siarad yn fwy aml.

Ym mis Awst dwi'n gweithio yn yr Eisteddfod ac mae'n côr ni'n cystadlu yna am y trydydd tro. Pan fydda i ar y llwyfan, bydda i'n meddwl am fy mam-gu o Glydach, ac am yr emynau Cymraeg yn ei chapel.

Dwi'n siŵr byddai hi wedi bod yn browd.