Tân yn difrodi hen eglwys yng Nghasnewydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tân yn difrodi hen eglwys

16 Mehefin 2018 Diweddarwyd 10:59 BST

Mae adeilad Eglwys Gymunedol Bethel yng Nghasnewydd wedi cael ei ddifrodi yn sylweddol ar ôl i dân ledu yno o hen adeilad clwb nos gerllaw nos Wener.

Cafodd bron i 100 o ddiffoddwyr eu galw i ardal Stow Hill tua 18:00 ddydd Gwener, ac roedd nifer o swyddogion yn dal i fod yno 13 awr yn ddiweddarach wrth i'r tân barhau i fudlosgi.