Ymosodiad rhyw ar ferch 12 oed

Y parc chwarae yng Ngorseinon Image copyright Google

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl ymosodiad rhyw ar ferch 12 oed yng Ngorseinon.

Digwyddodd yr ymosodiad wrth iddi gerdded drwy barc chwarae tua 19:00 nos Iau.

Llwyddodd y ferch i ddianc rhag ei ymosodwr.

Dywed yr heddlu fod yr ymosodwr rhwng 17 a 22 oed, tua 5' 8" ac o gorff cyhyrog.

Roedd yn gwisgo tracwisg du, gyda sbectol haul.

Dywedodd y ditectif arolygydd Ricky Price o Heddlu De Cymru: "Roedd hwn yn brofiad dychrynllyd i ddioddefwr ifanc, a bydd yn achosi pryder ymhlith y cyhoedd.

"Rydym wedi cynyddu ein presenoldeb yn yr ardal ac rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."