Dyn mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad

Gwrthdrawiad Image copyright Andrew Morgan Evans

Mae dyn 18 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad yng Nghasnewydd,

O ganlyniad i'r gwrthdrawiad tua 15:00 ddydd Sadwrn, fe wnaeth car gwyn Dacia Duster lanio ar ben cerbyd Suzuki llwyd.

Cafodd gyrrwr y Dacia ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w asgwrn cefn ar ôl y gwrthdrawiad ger cylchdro Harlequin.

Image copyright Andrew Morgan Evans

Dywed yr heddlu fod Land Rover hefyd yn rhan o'r digwyddiad.

Cafodd y lluniau eu tynnu gan Andrew Morgan Evans, ffotograffydd lleol, oedd yn cerdded adref ar ôl bod yn siopa.

Dywedodd: "Roedd hi'n olygfa ryfedd - ddim yn olygfa bob dydd, ac roedd hi'n swreal gweld un car ar ben un arall, ac yn gorwedd mor dwt."

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod tri chriw wedi eu hanfon i'r gwrthdrawiad.

Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y gwrthdrawiad.

Bu'r ffordd ynghau am gyfnod tra bod yr heddlu yn archwilio'r safle.