Achos llys wedi ras ceffyl a chart ar yr M4

Llun o'r ceffylau Image copyright Heddlu De Cymru

Mae yna luniau wedi dod i'r amlwg o ddau ddyn yn rasio ceffyl a chart ar draffordd yr M4, gan ymddangos yn feddw.

Dywed Heddlu De Cymru fod y dynion wedi eu gweld yn teithio ar yr M4 ger Port Talbot yn gynnar fore Sul.

"Mae dau ddyn wedi cael gorchymyn i ymddangos gerbron llys yn dilyn y digwyddiad," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Mae neges drydar gan Uned Ffyrdd Heddlu'r De yn dweud "yn ffodus ni chafodd unrhyw un ei anafu".