Stori Ffion: 'Jack the lad' oedd yn cuddio'r gwirionedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ffion, darlithydd o Gaernarfon, sydd yng nghanol y broses o newid o fod yn ddyn i fod yn ddynes

Mae darlithydd peirianneg o Gaernarfon wedi bod yn rhannu ei phrofiadau o newid i fod yn ddynes wrth i adroddiad ddweud bod pobl LHDT (LGBT) yng Nghymru'n wynebu bwlio, gwahaniaethu a thrais yn y gweithle.

Cafodd Ffion Erin Parry ei geni'n ddyn o'r enw Neil Wyn Parry ac yn ddiweddar fe ddywedodd wrth ei theulu, ffrindiau a chyflogwyr ei bod yn newid i fyw fel dynes.

Mewn cyfweliad gyda Nia Cerys ar raglen y Post Cyntaf, BBC Radio Cymru, dywedodd Ffion ei bod yn gwybod ers pan oedd yn ifanc iawn nad oedd hi eisiau bod yn fachgen.

"Ers blynyddoedd maith, ers pan o'n i'n ryw saith oed, dwi'n cofio'r meddyliau cyntaf yn dechrau hel mod i'n wahanol," meddai.

"Er bod gen i domen o ffrindiau yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd, es i'n ddistaw: ddim yn dweud dim byd wrth neb a ddim eisiau siarad efo neb - roedd rhywbeth o'i le.

"Mewn tref bach r'un fath â Chaernarfon yn enwedig, o'n i'n meddwl 'Na, fedrai ddim gwneud dim byd am hyn' - yr ofn o ddod allan mor ifanc, ac y bysa'r teulu'n troi yn fy erbyn i."

Roedd cysgod yr ofn yma'n gwneud i Ffion deimlo'n isel.

"Ro'n i'n teimlo mod i methu siarad efo neb rhag ofn imi golli cefnogaeth teulu a ffrindiau," meddai.

"Fel mae plant yn siarad yn yr ysgol - fysa'r straeon yn lledaenu a falle fysa bwlio wedi mynd ymlaen."

Perthynas gyda merched

Yn allanol, roedd Ffion yn ymddwyn fel hogiau eraill ac fe ddechreuodd feddwl y gallai anwybyddu ei theimladau.

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Ffion Erin Parry pan oedd yn Neil Wyn Parry

"Er mod i'n gwneud yr un petha ag roedd yr hogiau i gyd yn ei wneud ro'n i'n teimlo dipyn bach yn anghyfforddus - o'n i'n gwybod bod 'na rywbeth allan o'i le, o'n i ddim yn y corff o'n i isho bod ynddo fo," meddai.

"Nes i ddechrau mynd allan efo ffrindiau ac roeddan nhw'n dechrau siarad am ferched ar y pryd.

"Roeddwn i'n gwybod mod i'n hoffi merched, a dal i fod yn hoffi merched, so o'n i wedi dechrau rhoi o nôl yn cefn y meddwl - 'Ryw phase 'di hyn - os fydda i'n cario ymlaen o gwmpas rhain fyddai'n iawn'."

Mae gan Ffion ddau o blant. Roedd wedi bod mewn perthynas gyda merched ers pan oedd yn 16 oed.

Wrth edrych yn ôl, wnaeth hynny ddim ei helpu i ddod allan meddai gan ei fod yn poeni am ymateb ei bartneriaid.

"Os fyswn i'n dweud, yn dod allan iddyn nhw yn iawn, be' fysan nhw'n wneud? Fysan nhw'n outio fi neu'n gorffan? Hynny oedd y peth mwyaf, achos roedd gynna' i feddwl ohonyn nhw. Ro'n i'n teimlo'n isel," meddai.

'Jack the Lad'

Ond ers iddi ddod allan mae'r ymateb wedi bod yn wahanol i'r hyn roedd wedi ei ofni dros yr holl flynyddoedd.

"Mae wedi bod yn hollol wahanol yng Nghaernarfon ers imi ddod allan. Mae pawb wedi bod yn gefnogol," meddai.

Roedd rhai o'i ffrindiau agos wedi amau meddai ond roedd llawer iawn wedi synnu hefyd: "Roedd lot o'r hogiau dipyn bach yn shocked achos roedd lot yn dweud mod i'n rêl Jack the Lad ond dipyn bach o sioe oedd o, dipyn bach o bravado i drio osgoi'r ffaith o'n i'n cuddio rhywbeth mawr."

Fel darlithydd perianneg mecanyddol yng Ngholeg Menai mae'r ymateb yn y gwaith wedi bod yn dda hefyd, meddai Ffion.

"Mae ymateb y staff wedi bod yn rhagorol. Mae ymateb y myfyrwyr wedi bod yn ardderchog. O'n i'n meddwl fysa casineb yn dechrau meithrin ond does dim byd drwg ar y funud," meddai.

"Yn y maes yma, oes mae 'na lot o banter yn mynd ymlaen rhwng staff a myfyrwyr a'r un peth yn y gweithle," meddai.

"Ond mae'n rhaid inni stopio gyda'r diwylliant yma o bobl yn cael eu offendio am bethau.

"Oes mae pobl yn d'eud pethau, wel d'eud pethau yn ôl ynde? Jyst cael hwyl, dipyn bach o banter a wnewch chi weld fod pobl yn fwy parod i dderbyn pwy ydach chi yn y diwedd."

'Dilynwch eich calon'

Mae Ffion yn credu bod cymdeithas yn fwy agored y dyddiau yma.

"Rydan ni'n byw mewn byd rŵan sy'n fwy parod i dderbyn pobl am pwy ydyn nhw," meddai.

"Mae'r rhan fwyaf o'r bobl dwi'n siarad efo nhw yn agored i bopeth a dwi'n meddwl y dylsa cwmnïau fod yr un peth."

Disgrifiad o’r llun,
Bu Ffion yn rhannu ei stori gyda Nia Cerys ar Radio Cymru

Mae Ffion yn dal yn y broses o newid - mae wedi newid ei henw yn swyddogol ac yn gobeithio newid ei chyfrifon yn y gwaith ac o ran biliau tŷ o fewn y misoedd nesaf.

Mae hefyd yn awyddus iawn i helpu pobl eraill sydd yn yr un sefyllfa.

"O ran iechyd meddwl, dwi'n berson cryf. Dwi allan yna yn helpu gymaint a fedra i - helpu rhai sydd dipyn bach hynach na fi efallai a dwi mewn cysylltiad gyda Cyngor Gwynedd i fod yn advocate iddyn nhw i helpu rhai ifanc lleol lle nad ydi'r mamau a'r tadau mor gefnogol neu angen mwy o gefnogaeth."

A'i neges i'r bobl ifanc hynny?

"Mae rhaid i chi ddilyn eich calon, bod yn wir i'ch hunain. A chofiwch fod 'na ddigon o gefnogaeth yna i chi fod yn falch o bwy ydach chi a peidiwch â gadael i neb dd'eud yn wahanol wrthach chi."