Arolwg: Cymry am weld mwy o gefnogaeth i'r iaith Gymraeg

Cymraeg

Mae 67% o bobol yn credu y dylai mwy o ymdrech gael ei roi i gefnogi'r iaith Gymraeg.

Am y tro cyntaf eleni, mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi holi barn pobol am eu hagwedd at yr iaith Gymraeg.

Yn yr arolwg, a gynhaliwyd rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018, roedd 86% o Gymry Cymraeg a di-Gymraeg hefyd yn dweud eu bod nhw'n ymfalchïo yn yr iaith.

Cafodd cwestiynau ynglŷn â'r iaith Gymraeg eu cynnwys eleni er mwyn cyfrannu at waith Llywodraeth Cymru wrth gynllunio at ei nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Roedd tua hanner y cwestiynau yn arolwg 2017-18 yn newydd ac mae amryw o gwestiynau yn ymwneud â gweithgareddau'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth a mynediad i wasanaethau lleol.

Cafodd yr arolwg ei gynnal wyneb yn wyneb gyda dros 11,000 o oedolion 16 oed a throsodd, a ddewiswyd ar hap ar hyd a lled Cymru.

Roedd 19% o oedolion yn dweud eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg gydag 11% yn dweud eu bod yn ei siarad yn "rhugl".

O'r rhai nad oedden nhw'n siarad Cymraeg, dywedodd 62% y bydden nhw'n hoffi siarad Cymraeg.

Ond wrth edrych at y dyfodol, dim ond 40% oedd yn credu y byddai'r iaith Gymraeg yn "gryfach o fewn 10 mlynedd."

Image copyright Ystadegau Cymru

Ymhlith canlyniadau Arolwg Cenedlaethol 2017-18 gwelwyd bod:

  • 86% o'r bobl a oedd yn rhan o'r arolwg yn fodlon â gofal eu meddyg teulu, a 90% yn fodlon â'r gofal yr oeddynt wedi ei dderbyn yn eu hapwyntiad diwethaf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
  • 88% o rieni yn fodlon ag ysgol gynradd eu plentyn, a 75% yn fodlon ag ysgol uwchradd eu plentyn.
  • 68% yn dweud eu bod yn gallu talu eu biliau a bodloni eu hymrwymiadau heb unrhyw anhawster.
  • 86% yn credu bod y Gymraeg yn rhywbeth y dylid bod yn falch ohoni.
  • 77% yn fodlon â'u gallu i gael gwasanaethau yn eu hardal leol.
  • 85% yn defnyddio'r rhyngrwyd.

'Agweddau cadarnhaol'

Wrth gyhoeddi'r ystadegau dywedodd Glyn Jones, Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru, fod y ffigyrau yn awgrymu agweddau cadarnhaol at yr iaith.

"Rydan ni wedi gofyn cwestiynau ychwanegol eleni ynglŷn ag agweddau at yr iaith Gymraeg sy'n dangos bod y mwyafrif o bobol, er falle nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg, yn ymfalchïo yn yr iaith."

Eglurai fod tystiolaeth fel hyn yn "bwysig ofnadwy" gyda'r strategaeth newydd a'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Ychwanegodd: "Mae gofyn mwy o gwestiynau fel hyn yn rhoi cyd-destun pwysig i ni ynglŷn â sut y gallwn ni gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg at y dyfodol."

Wrth ymateb i'r ystadegau, dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith, Tamsin Davies, fod yr arolwg yn galonogol.

"Mae yna neges glir i bawb mewn awdurdod yn y canlyniadau hyn - byddwch yn ddewr a phenderfynol wrth weithredu dros y Gymraeg.

"Mae hefyd yn amlwg bod llawer o oedolion am ddysgu'r iaith, felly mae angen llawer mwy o fuddsoddiad yn y maes yna."

Meysydd eraill

Mewn meysydd eraill, doedd canlyniadau'r arolwg ddim mor galonogol.

Roedd un o bob pedwar, er enghraifft, ddim yn fodlon gydag ysgolion uwchradd Cymru, ac roedd llai hefyd yn fodlon gydag ysgolion cynradd.

75% oedd yn fodlon gyda'r rhai uwchradd o gymharu â 85% y llynedd, tra bod y ffigwr am ysgolion cynradd i lawr o 90% i 88%.

86% o'r rhai ymatebodd oedd yn fodlon gyda'u gwasanaeth meddygon teulu - roedd y ffigwr yma hefyd i lawr o 90% flwyddyn yn ôl.

Dywedodd 42% eu bod wedi cael trafferth cael apwyntiad - 38% ddywedodd yr un peth yn 2017.

Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru.

Cafodd 11,381 o gyfweliadau eu gwneud wyneb yn wyneb gydag oedolion dros 16 oed yng Nghymru rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018.

Pynciau Cysylltiedig