Rygbi: Cyhoeddi manylion grwpiau Ewrop 2018/19

  • Cyhoeddwyd
European Champions and Challenge CupsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Bydd rowndiau terfynol Cwpan Ewrop a Chwpan Her Ewrop yn cael eu cynnal yn Newcastle ym mis Mai 2019

Mae'r Scarlets wedi cael eu rhoi yn yr un grŵp â Chaerlyr, Racing 92 ac Ulster yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop Heineken y tymor nesaf.

Cafodd y grwpiau eu penderfynu mewn seremoni yn yr Amgueddfa Olympaidd yn Lausanne, Y Swisdir brynhawn Mercher.

Fe gyrhaeddodd y Scarlets rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth y tymor diwethaf, gan golli yn erbyn y deiliaid, Leinster.

Mae'r Gleision, sydd hefyd wedi sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar ôl ennill Cwpan Her Ewrop y tymor diwethaf, wedi ei gosod yng ngrŵp 3, gyda phencampwyr presennol cynghrair Lloegr, y Saraseniaid, yn ogystal â Glasgow a Lyon o Ffrainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gleision Caerdydd wnaeth godi Cwpan Her Ewrop yn y rownd derfynol ym mis Mai eleni

Cafodd grwpiau y Gweilch a'r Dreigiau yn y Cwpan Her eu penderfynu yn ystod yr un seremoni hefyd.

Mae'r Dreigiau wedi ei gosod yng ngrŵp un gyda Northampton, Clermont Auvergne o Ffrainc a Saraseniaid Timisoara o Rwmania.

Bydd y Gweilch yn wynebu dau dîm o Ffrainc - Stade Francais Paris a Pau - a thîm Caerwrangon.

Bydd y gemau cyntaf yn cael eu cynnal ym mis Hydref.

Grwpiau Cwpan Pencampwyr Ewrop Heineken 2018/19

  • Grŵp 1:  Leinster, Wasps, Toulouse, Caerfaddon
  • Grŵp 2:  Castres Olympique, Caerwysg, Munster, Caerloyw
  • Grŵp 3:  Saraseniaid, Glasgow, Lyon, Gleision Caerdydd
  • Grŵp 4:  Scarlets, Racing 92, Caerlyr, Ulster
  • Grŵp 5:  Montpellier, Newcastle Falcons, Caeredin, RC Toulon

Grwpiau'r Cwpan Her 2018/19:

  • Grŵp 1: Northampton Saints, ASM Clermont Auvergne, Y Dreigiau, Saraseniaid Timisoara
  • Grŵp 2:  Pau, Y Gweilch, Caerwrangon, Stade Français Paris
  • Grŵp 3:  Sale Sharks, Connacht, Bordeaux-Bègles, Perpignan
  • Grŵp 4:  La Rochelle, Zebre, Bristol Bears, Enisei-STM
  • Grŵp 5:  Benetton Rugby, Harlequins, Agen, Grenoble