Pryderon ehangach am ddyfodol Airbus
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Dychrynllyd o wael' petai Airbus yn gadael y DU

22 Mehefin 2018 Diweddarwyd 19:15 BST

Byddai'n "ddychrynllyd o wael" i ogledd ddwyrain Cymru ac i'r ardal ehangach petai Airbus yn gadael y DU wedi Brexit, yn ôl Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria, David Jones.

Fe wnaeth Mr Jones y sylwadau ar raglen y Post Prynhawn ddydd Gwener, gan ychwanegu ei fod yn pryderu am effaith posib i swyddi yn y coleg o ganlyniad.

Mae Airbus yn cyflogi tua 14,000 o bobl ar 25 safle gwahanol ar draws y DU, gan gynnwys oddeutu 6,000 yn eu ffatri adeiladau adenydd ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Mae Airbus wedi dweud nad codi bwganod oedd hyn, ond bod "realiti'n gwawrio".