Morgannwg yn brwydro 'nôl yn erbyn Sir Derby

Prem Sisodiya Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Prem Sisodiya (dde) yn dathlu ar ôl cipio wiced i Forgannwg

Brwydrodd Morgannwg yn ôl yn hwyr ar y trydydd diwrnod i fynd ar y blaen yn erbyn Sir Derby.

Dechreuodd Sir Derby yn gryf, ond disgynnodd eu pum wiced olaf am bum rhediad yn unig.

Llwyddodd Morgannwg i wrthymosod yn effeithiol gan sgorio 153 ar ôl dechreuad sigledig o 48-3.

Llwyddodd Usman Khawaja i sgorio 79 rhediad gyda Kiran Carlson yn ychwanegu 69 rhediad arall, y ddau heb fod allan.

Mae Morgannwg ar y blaen o 122 o rediadau wrth fynd mewn i'r diwrnod olaf yn Abertawe ddydd Sadwrn.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol