Pencampwriaeth y Siroedd: Morgannwg a Derby'n gyfartal

Kiran Carlson yn cael ei longyfarch gan Usman Khawaja ar ôl sgorio canred Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Kiran Carlson yn cael ei longyfarch gan Usman Khawaja ar ôl sgorio canred

Mae Morgannwg wedi colli cyfle i sicrhau'u hail fuddugoliaeth o'r tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd wedi i Sir Derby daro'n ôl yn gryf ar y pedwerydd diwrnod.

Fe sgoriodd yr ymwelwyr 147-8 i sicrhau gêm gyfartal annisgwyl yn Sain Helen.

Roedd hynny er i Usman Khawaja (126) a Kiran Carlson (152) sicrhau cyfanswm o 403-7 i Forgannwg yn yr ail fatiad.

Khawaja yw'r chwaraewr cyntaf i sgorio dau ganred yn ei ddau ymddangosiad cyntaf i Forgannwg.

Mae'r canlyniad yn gadael Morgannwg yn nawfed safle tabl Adran Dau.