Disgwyl i dymheredd Cymru gyrraedd 27°C yr wythnos hon

Barry Beach in the sunshine Image copyright Getty Images
Image caption Mae disgwyl i nifer heidio i'r traeth yn ystod yr wythnos

Mae disgwyl i'r tywydd cynnes barhau yng Nghymru yr wythnos hon ac mewn mannau mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 27°C (80F).

Fe allai'r tymheredd godi ddiwedd yr wythnos wrth i'r gwasgedd uchel, sydd ar hyn o bryd yng ngorllewin Iwerddon, ddod â mwy o heulwen a thywydd twym i Gymru.

Yn ôl y cyflwynydd tywydd Derek Brockway mi allai'r tywydd cynnes bara tan ddechrau Gorffennaf.

Ond dyw'r tywydd cynnes ddim yn newyddion gwych i ddioddefwyr clefyd y gwair gan fod disgwyl i lefelau'r paill fod yn "uchel iawn".

Ddydd Llun mae disgwyl cyfnodau heulog gyda'r tymheredd ar ei uchaf yn 27°C (80F).

Mi fydd hi ychydig yn oerach ar y glannau ddydd Mawrth a ddydd Iau.

Mae disgwyl hefyd i'r tymheredd godi'r wythnos hon yn ystod y nos.