Cofio'r grasfa gan y Springboks yn '98

Image caption Andre Snyman yn hollti amddiffyn y Cymry yn Pretoria, 27 Mehefin, 1998

Yn ystod haf 1998 aeth tîm rygbi rhyngwladol Cymru ar daith i Zimbabwe a De Affrica.

Dechreuodd y daith ar nodyn positif gyda Chymru'n curo Zimbabwe yn Harare.

Ond yna daeth pum colled yn olynol, gan gynnwys y canlyniad yn y gêm olaf sydd wedi bod yn destun hunllefau i gefnogwyr Cymru dros y blynyddoedd.

Collodd Cymru 96-13 i'r Springboks yng ngêm olaf y daith yn Pretoria - y golled waethaf yn hanes rygbi rhyngwladol Cymru.

Un oedd yn chwarae dros Gymru y dydd hwnnw oedd yr asgellwr Dafydd James, ac fe rannodd ei atgofion o'r daith gyda Cymru Fyw.


Roedd e wastad am fod yn anodd teithio i Dde Affrica - nhw oedd Pencampwyr y Byd ar y pryd.

Roedd 18 o'n chwaraewyr allweddol ni, fel Scott Gibbs a Neil Jenkins, ddim wedi teithio yno oherwydd anafiadau neu blinder wedi tymor hir a chaled.

Heblaw am y 18 chwaraewr absennol, roedd anafiadau newydd ar y daith hefyd - Scott Quinnell gyda chesail y forddwyd (groin), Rob Howley â llinyn y gar (hamstring) a Martyn Williams gyda niwed i'w ligaments. O ganlyniad roedd 'na chwaraewyr yn ein tîm a oedd yn drydydd dewis, ac efallai pedwerydd dewis mewn ambell safle.

Collodd hyfforddwr Cymru, Kevin Bowring, ei swydd wedi Pencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1998 ac aethon ar y daith gyda dau hyfforddwr dros dro wrth y llyw, Lynn Howells a Dennis John. Felly roedd hynny, a'r ffaith fod y garfan a'r chwâl ac mai tair wythnos oedd gennym i baratoi ar gyfer Pencampwyr y Byd, yn awgrymu y byddai'r daith yn un anodd.

Aethon ni i Zimbabwe gyntaf (ennill 49-11), ac i fod yn onest efallai dylen ni fod wedi dod adref ar ôl y gêm yna!

Image copyright Jamie McDonald
Image caption Joost van der Westhuizen, sy'n cael ei gydnabod fel un o'r mewnwyr gorau yn hanes y gêm. Bu farw ym mis Chwefror 2017 wedi cyfnod o salwch gyda chlefyd Motor Neurone

Roedd gan y Springboks un o fawrion y gêm yn eu tîm, Joost van der Westhuizen. Hefyd yn y tîm roedd Percy Montgomery, Henry Honiball, Andre Snyman, Andre Wenter a Stefan Terblanche - a oedd newydd sgorio pedwar cais mewn buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon.

Felly roedd ganddyn nhw dîm gwych ac roeddent eisiau dial wedi iddyn nhw golli'r gyfres yn erbyn y Llewod yn 1997, a ni gafodd y backlash cyn iddyn nhw fynd 'mlaen i ennill pob gêm yng nghystadleuaeth y Tri Nations y flwyddyn honno yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia.

Diwrnod y gêm

Roedden ni'n chwarae yn Stadiwm Minolta Loftus (Loftus Versfeld heddiw) yn Pretoria, ar altitude uchel a'r awyr yn las.

Mae 'na orennau bach yn Ne Affrica o'r enw Naartjie, ac roedd y dorf yn taflu rhain at rai o fechgyn Cymru. Roedd yr amodau yn eitha' anodd mae'n rhaid dweud, ond roedd rhaid just cario 'mlaen.

Doedden ni ddim yn chwarae yn erbyn 15 ar y cae yn unig, roedden ni'n chwarae yn erbyn tua 45,000 yn y Stadiwm, felly roedd o dipyn bach fel Brwydr Rorke's Drift, ond wnaethon ni ddim ennill. Aethon ni ar y blaen 3-0 ac fe ddylai'r dyfarnwr wedi chwibanu i orffen y gêm wedi hynny.

Cafodd Dafydd James 48 o gapiau dros Gymru rhwng 1995 ac 2007 Image copyright Stu Forster
Image caption Cafodd Dafydd James 48 o gapiau dros Gymru ac roedd yn rhan o'r garfan rhyngwladol yng Nghwpan y Byd yn 1999 ac 2007

Roedd 'na gloc ar y sgorfwrdd digidol, a phan oedden ni tua 70 pwynt i lawr nes i ofyn i'r dyfarnwr "alli di ddim chwythu lan nawr?" a fe'n ateb "Byswn i wrth fy modd ond mae rhaid fi ddilyn y cloc yna" gan bwyntio at y sgorfwrdd.

Fe dorrodd Arwel Thomas drwy linell amddiffyn y Springboks gyda dummy hyfryd, ac yna fe ddechreuodd e 'neud bach o showboating cyn sgorio dan y pyst. Nes i weiddi "Arwel rho'r f****** bêl lawr! 'Da ni 70 pwynt lawr allet ti fod wedi ei gollwng hi!"


Dwi'n cofio wedi'r gêm roedd 'na embaras mawr, ond roedd yn rhywbeth yr oedd rhaid ti ddod drosto. Wnes i fy ngorau ar y diwrnod ond doedden ni jyst ddim yno, a ddim digon da.

Roedd bobl mewn galar yng Nghymru ac mor siomedig ac roedd e'n humiliating i fod yn onest. Roedd gan bobl a oedd yn gwylio'r gêm gywilydd, felly dychmygwch sut beth oedd bod ar y cae! Roedd e'n ofnadwy, ofnadwy!

Fe ddysgon ni gymaint drwy chwarae yn erbyn y tîm gorau yn y byd y diwrnod hwnnw, ond yn anffodus i rai o'r chwaraewyr dyna oedd eu hunig gap dros Gymru. O'n i'n ffodus i fod ymysg y grŵp ifanc a oedd yn dod drwyddo, efo Ian Gough a Stephen Jones ac ambell un arall.

dafydd james Image copyright David Rogers
Image caption Chwaraeodd Dafydd James dros nifer o dimau yn ystod ei yrfa gan gynnwys Pen-y-Bont, Pontypridd, Llanelli, Harlequins a Sale. Rhoddodd y gorau i chwarae yn 2010

O'n i yno pan drodd rygbi yn gêm broffesiynol yng Nghymru, gyda phawb yn rhoi'r gorau i'w swyddi yn syth, er doedd neb wir yn deall beth oedd bod yn broffesiynol yn ei olygu. Doedd 'na ddim strwythur, dim sôn am fwyta'n iawn a maeth - roedden ni just yn taflu cwpl o dumbbells o gwmpas a thaflu'r bêl.

Felly roedd hi'n gyfnod newydd a ddigwyddodd dros nos, yn llythrennol. Roedd De Affrica wedi bod yn broffesiynol ers blynyddoedd, ac hefyd Seland Newydd ac Awstralia. Roedd gan Loegr yr adnoddau a'r arian i fabwysiadu'r newidiadau yr oedd angen eu gwneud.

'Chwa o awyr iach'

Wedi'r daith cafodd Graham Henry ei benodi yn brif hyfforddwr ar y garfan a newidiodd y ffordd roedden ni'n chwarae, ac roedd e'n chwa o awyr iach. Roedd e'n gyn brifathro ac roedd ganddo ei strwythur fel roedd yn rhedeg busnes neu redeg ysgol, ac fe roddodd swyddi i bobl gyda sgiliau cyfathrebu da fel Steve Black a hyfforddwyr eraill.

Bellach mae hyn yn ddisgwyliedig, hyfforddwyr amddiffyn, hyfforddwyr athletau, nutritionists, seicolegwyr. Daeth Graham â rhain i mewn ac roedd yn effeithiol yn gyflym iawn. Roedden ni nôl yn chwarae rygbi cyflym, ac os oedd cyfle i redeg y bêl o'n llinell gais ein hunain, dyna oeddem am ei wneud.

Image copyright Mark Leech/Offside
Image caption Roedd Stadiwm y Mileniwm dal yn safle adeiladu pan welodd 27,683 o gefnogwyr Cymru'n curo'r Springboks am y tro cyntaf erioed, 29-19, ar Fehefin 26, 1999.

Roedd e'n gymaint o hwyl i godi'n pennau a chwarae i beth oedd yn ein blaenau a lledu'r bêl yn hytrach na chadw at strwythur hynod o gyfyngedig. O ganlyniad i chwarae gyda thempo cyflymach roedden ni'n dîm mwy ffit hefyd.

Daeth yr enwau mawr nôl i'r garfan ac fe ddylen ni fod wedi curo De Affrica yn Wembley yn Nhachwedd 1998, ond fe redodd streaker ar y cae a thorri llif y chwarae - fe wnaethon ni golli ein pennau wedi hynny.

Ar Fehefin 26, 1999, bron flwyddyn i'r diwrnod wedi gêm Pretoria fe wnaethon ni guro'r Springboks am y tro cyntaf, ac hynny yn y gêm gyntaf erioed yn Stadiwm y Mileniwm.

Wedi'r fuddugoliaeth yna fe ddechreuodd y daith nôl i ni gyrraedd yr haen uchaf o dimau rygbi'r byd drwy chwarae ein rygbi agored, cyflym a naturiol.