Carwyn Jones: 'Byddai Gogledd Iwerddon wedi cael morlyn'

  • Cyhoeddwyd
Morlyn AbertaweFfynhonnell y llun, TLP

Mae Carwyn Jones wedi dweud y byddai Llywodraeth y DU wedi cefnogi cynllun fel morlyn llanw Bae Abertawe petai wedi'i leoli yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod llywodraeth San Steffan wedi gwneud "penderfyniad gwleidyddol" i wrthod y prosiect £1.3bn.

Ar hyn o bryd mae plaid y DUP yn cefnogi llywodraeth Geidwadol leiafrifol Theresa May ar yr amod bod mwy o arian yn mynd i Ogledd Iwerddon.

Mynnodd Mr Jones nad oedd yn "ymddiried yn y ffigyrau mae Llywodraeth y DU wedi'u cyhoeddi" i gyfiawnhau eu safbwynt.

'Dim trafodaethau'

Mae'r unigolyn wnaeth arwain adolygiad annibynnol yn edrych ar y cynlluniau bellach wedi dweud y gallai penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio cefnogi'r morlyn llanw ym Mae Abertawe fod wedi cael ei wneud 18 mis yn ôl.

Fe wnaeth Charles Hendry ddatgan o blaid y cynllun £1.3bn yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan y llywodraeth, ym mis Ionawr 2017.

Ddydd Llun dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni a Busnes, Greg Clark nad oedd y prosiect yn cynnig gwerth am arian, ond mae'r datblygwyr wedi gwadu hynny.

Mae Tidal Lagoon Power (TLP) wedi gwneud cais am gyfarfod gyda gweinidogion llywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Byddai'r morlyn wedi gallu darparu trydan ar gyfer 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd

Cafodd penderfyniad Llywodraeth y DU ei feirniadu gan wleidyddion lleol gydag AS Llafur Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris ei bod yn "flin iawn" nad oedd y llywodraeth wedi cefnogi "syniad mor gyffrous".

Ychwanegodd Ms Harris y byddai'r morlyn yn cael ei gymeradwyo petai llywodraeth Lafur mewn grym yn San Steffan.

Dywedodd Mr Hendry ei fod yntau'n siomedig, ond ei fod yn galonogol fod y llywodraeth wedi dweud eu bod yn awyddus i edrych ar dechnolegau llanw eraill.

"Ond mae hyn felly wedi cymryd 18 mis ac i fod yn onest fe allen nhw bron fod wedi dweud 'na' ar y diwrnod cyntaf," meddai'r cyn-weinidog ynni.

'Swyddi canolfannau galwadau'

Un sydd wedi'i feirniadu am y penderfyniad yw Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, gydag AC Plaid Cymru Dai Lloyd yn gofyn: "Beth yw'r pwynt cael Ysgrifennydd Gwladol i Gymru os does ganddo ddim dylanwad?"

Ychwanegodd Dr Lloyd yng nghynhadledd i'r wasg Plaid Cymru fore Mawrth bod Cymru "wedi bod yn ddibynnol ar swyddi canolfannau galwadau am lawer yn rhy hir".

Dywedodd bod Abertawe wedi colli allan o'i gymharu â Chaerdydd ers dechrau datganoli, ond bod Llywodraeth Cymru "â'r modd i wireddu'r lagŵn".

Doedd Llywodraeth y DU ddim yn fodlon talu'r ffi yr oedd TLP eisiau am yr ynni, a hynny er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £200m o gefnogaeth at y cynllun.

Yn ôl TLP dydyn nhw heb gael trafodaethau â Llywodraeth y DU ers dwy flynedd, a dywedodd eu cadeirydd Keith Clarke nad oedd hi'n "afresymol" disgwyl y byddai hynny'n digwydd yn sgil y penderfyniad ddydd Llun.

Mae'r cwmni'n honni y byddai'r prosiect yn darparu trydan ar gyfer 155,000 o dai yng Nghymru ac y byddai'n rhatach nag ynni niwclear.

'Arwyddion anghywir'

Yn y cyfamser mae RenewableUK Cymru yn dweud bod penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi morlyn Bae Abertawe'n anfon yr arwyddion anghywir i'r sector ynni adnewyddadwy.

Yn ôl y corff sy'n cynrychioli datblygwyr ynni gwyrdd yng Nghymru fe fydd y penderfyniad yn ei gwneud hi'n anoddach i'r wlad gyrraedd targedau cyfreithiol i ostwng allyriadau carbon.

Dywedodd David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru fod y penderfyniad yma yn dilyn cyfnod sydd wedi gweld buddsoddiad mewn ynni gwyrdd yn gostwng.

Disgrifiad,

David Clubb o Renewable UK Cymru

Er hyn, mae gweinidogion yn dweud fod nifer y cynlluniau ynni adnewyddadwy yn y DU pedair gwaith yn uwch erbyn hyn i gymharu â 2010.

Er yn cydnabod y byddai'r cyhoeddiad yn siom i lawer, amddiffyn y cyhoeddiad wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns. gan fynnu bod ei lywodraeth yn dal wedi ymrwymo i ynni adnewyddadwy.

'Cymorthdaliadau'n diflannu'

Roedd datblygwyr morlyn ynni llanw Bae Abertawe'n gobeithio y byddai'r dechnoleg yn cyflenwi holl anghenion trydan Cymru yn y pen draw.

Roedden nhw'n cynllunio cyfres o chwech o forlynnoedd - buddsoddiad posib o £500bn yn sector ynni adenwyddol y DU.

Dywedodd Mr Clubb: "Mae penderfyniad llywodraeth San Steffan i wrthod yr arbrawf cychwynnol yn Abertawe yn dilyn cyfnod sydd wedi gweld buddsoddiad mewn ynni solar a ffermydd gwynt yn gostwng wrth i gymorthdaliadau ddiflannu."

Ychwanegodd: "Rydym ni dal yn aros am symudiad y llywodraeth ar ynni gwynt ar y tir ac ynni haul... a bydd hwn hefyd ddim yn help i'r sector."