Dyn o Bowys allan o'r ysbyty wedi gwrthdrawiad Cyprus

car Image copyright Marios Ignatiou
Image caption Mae dyn 35 oed a dynes 23 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio

Mae heddlu Cyprus wedi dweud bod dyn 32 oed o Gymru gafodd ei anafu mewn gwrthdrawiad dros y penwythnos bellach wedi gadael yr ysbyty.

Roedd William Pritchard, 32 oed o'r Trallwng ym Mhowys, yn un o ddau gafodd eu taro gan gar ger dinas Paphos yn oriau man fore Sul.

Bu farw Robert James Birch, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Charlie Birch, yn y digwyddiad.

Roedd Mr Birch yn 39 oed a hefyd yn dod o'r Trallwng.

Image copyright Wales News Service
Image caption Bu farw Charlie Birch, 39, yn y digwyddiad yn oriau man fore Sul

Methodd gyrrwr y car â stopio wedi'r gwrthdrawiad, a dywedodd yr heddlu fod y car wedi'i ganfod yn y môr yn ddiweddarach.

Mae dyn 35 oed a dynes 23 oed bellach wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio, ac yn parhau yn y ddalfa.

Wrth siarad ar BBC Radio Wales fore Llun dywedodd Graham Breeze, cynghorydd ym Mhowys, ei fod yn "ddiweddglo trasig i'r hyn ddylai fod yn wyliau teulu perffaith".

Ychwanegodd Mr Breeze bod Mr Birch o deulu "adnabyddus iawn" yn Y Trallwng, a'i fod yn "ddyn poblogaidd yn y gymuned".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol