Dewch i weld Cwmderi

deri Image copyright Patrick Olner

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd modd i bawb ymweld â Chwmderi am un wythnos yn unig yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mae Caerdydd.

Yn ogystal ag agor y drws i'r Deri a setiau eiconig eraill y Cwm yn y stiwdios drama, bydd y teithiau yn ymweld â'r brif stryd adnabyddus, gan roi cipolwg ar y cynhyrchiad o du ôl y camera.

Bydd Shelley Rees (Stacey) a Rhydian Bowen Phillips (Dewi), dau o gyn-actorion yr opera sebon, yn dychwelyd i Gwmderi i arwain y teithiau a bydd cyfle i chi holi cwestiynau wrth grwydro o amgylch y stiwdio.

Image caption Mae Stacey ni wedi newid Hywel am Rhydian Bowen Phillips ar gyfer y teithiau!

Mae'r teithiau'n rhad ac am ddim, a mae modd archebu tocynnau nawr o wefan Canolfan y Mileniwm.

Bydd y teithiau'n cael eu cynnal ddydd Sadwrn, 4 Awst ac yna'n ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Gwener, Awst 6-10.

Ond cyntaf i'r felin...