Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2018

Mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Fawrth, cyhoeddwyd mai Blodau Cymru: Byd y Planhigion gan Goronwy Wynne gipiodd teitl Llyfr y Flwyddyn 2018.

Cafodd deg enillydd eu gwobrwyo yn y seremoni, sy'n dathlu llyfrau mewn tri chategori yn y Gymraeg a'r Saesneg - barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol greadigol.

Cliciwch yma i weld holl enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2018.

Roedd y ffotograffydd Sioned Birchall yno ar ein rhan:


Goronwy Wynne Image copyright Sioned Birchall
Image caption Enillydd y brif wobr Gymraeg, Goronwy Wynne, yn mwynhau diod a sgwrs
Tramshed Image copyright Sioned Birchall
Image caption Cafodd y noson ei chynnal yn y Tramshed yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol - ac roedd hi'n braf iawn!
Gareth Potter Image copyright Sioned Birchall
Image caption Roedd y DJ Gareth Potter yno eto eleni yn diddanu pobl gyda'i gerddoriaeth
Gwion Hallam Image copyright Sioned Birchall
Image caption Y prifardd Gwion Hallam oedd yn cyflwyno'r noson
Ifor ap Glyn Image copyright Sioned Birchall
Image caption Ifor ap Glyn, bardd cenedlaethol Cymru, ar leoliad gyda chriw ffilmio
Caryl Lewis Image copyright Sioned Birchall
Image caption Yr awdur Caryl Lewis, cyn-enillydd a beirniad ar y noson, yn edrych tua'r llwyfan
Peredur Lynch Image copyright Sioned Birchall
Image caption Peredur Lynch, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg 360, am ei gyfrol farddoniaeth gyntaf, Caeth a Rhydd
Crystal Jeans a Gwion Hallam Image copyright Sioned Birchall
Image caption Yr awdures Crystal Jeans, enillydd y wobr Ffuglen Saesneg am ei llyfr Lightswitches Are My Kryptonite
"Dal yn ffrindiau?" Catrin Dafydd, enillydd yn y categori ffuglen Gymraeg am ei chyfrol Gwales... ar draul Llŷr Gwyn Lewis a'i lyfr Fabula Image copyright Sioned Birchall
Image caption "Dal yn ffrindiau?" Catrin Dafydd, enillydd yn y categori ffuglen Gymraeg am ei chyfrol Gwales... ar draul Llŷr Gwyn Lewis a'i lyfr Fabula
Tristan Hughes Image copyright Sioned Birchall
Image caption Enillydd y Wales Arts Review People's Choice Prize oedd Tristan Hughes am ei nofel Hummingbird
Caryl Lewis a Hywel Griffiths Image copyright Sioned Birchall
Image caption "Mae anwylder y dweud yn cyfareddu" meddai Caryl Lewis, wrth gyhoeddi mai Hywel Griffiths a'i gyfrol Llif Coch Awst oedd yr enillydd yng nghategori'r gyfrol farddoniaeth Gymraeg
Robert Minhinnick Image copyright Sioned Birchall
Image caption Robert Minhinnick enillodd Llyfr Saesneg y Flwyddyn am ei gyfrol o farddoniaeth, Diary of the Last Man
Goronwy Wynne Image copyright Sioned Birchall
Image caption Goronwy Wynne yn mwynhau'r noson
Yr Athro M. Wynn Thomas Image copyright Sioned Birchall
Image caption Yr Athro M. Wynn Thomas oedd yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas
Goronwy Image copyright Sioned Birchall
Image caption Y beirniaid Caryl Lewis, Beti George ac Aneirin Karadog gyda Goronwy Wynne (ail o'r chwith)

O'r archif:


Pynciau Cysylltiedig