Cyhoeddi rhestr gemau Uwch Gynghrair Cymru

Uwch Gynghrair Cymru Image copyright Uwch Gynghrair Cymru

Mae rhestr gemau Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer y tymor nesaf wedi cael ei rhyddhau.

Gyda Chaernarfon a Llanelli yn dychwelyd i'r gynghrair, bydd y Cofis yn croesawu Derwyddon Cefn i'r Oval ar y penwythnos agoriadol ar ddydd Sul 12 Awst.

Cei Connah fydd gwrthwynebwyr cyntaf Llanelli ar Barc Stebonheath ar yr un penwythnos.

Bydd y pencampwyr Y Seintiau Newydd yn dechrau eu hymgyrch gartref yn erbyn Y Barri.

Yn y gemau agoriadol eraill bydd Aberystwyth yn croesawu Llandudno, bydd Caerfyrddin yn teithio i'r Bala tra bo MET Caerdydd yn herio'r Drenewydd yn y brifddinas.

Bydd y gemau lleol traddodiadol dros wyliau'r Nadolig yn parhau gyda'r gynghrair yn hollti'n ddwy ar 12 Ionawr.

Mae rhestr lawn o gemau Uwch Gynghrair Cymru i'w gweld yma.

Pynciau Cysylltiedig