Roque Mesa yn gadael Abertawe ac yn arwyddo i Sevilla

Roque Mesa Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r chwaraewr canol cae Roque Mesa wedi gadael Abertawe ar ôl tymor yn unig wedi iddyn nhw ddisgyn o'r Uwch Gynghrair.

Arwyddodd y Sbaenwr y llynedd am £11m o Las Palmas, ond ers mis Ionawr mae wedi bod ar fenthyg yn Sevilla.

Mae Sevilla bellach wedi ei arwyddo'n barhaol am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond y gred yw ei fod tua £8m.

Dim ond naw gwaith y dechreuodd Mesa yn yr Uwch Gynghrair i Abertawe'r tymor diwethaf cyn dychwelyd i La Liga hanner ffordd drwy'r tymor.

Ers i'r Elyrch ddisgyn o'r Uwch Gynghrair mae'r chwaraewyr canol cae Ki-Sung Yeung a Leon Britton, yr amddiffynnwr Angel Rangel, a'r asgellwr Kenji Gorre wedi gadael y clwb ar ôl i'w cytundebau ddod i ben.

Mae'r golwr Lukasz Fabianski hefyd wedi symud i West Ham am ffi o tua £6m, ac mae'r clwb o Lundain hefyd wedi dangos diddordeb yn amddiffynnwr Abertawe Alfie Mawson.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol