Caerdydd yn arwyddo Bobby Reid ac Alex Smithies

Bobby Reid Image copyright Rex Features
Image caption Fe sgoriodd Reid 19 o goliau yn y Bencampwriaeth y llynedd

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r ymosodwr Bobby Reid o Bristol City am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond y gred yw y gall godi i tua £10m.

Fe sgoriodd yr ymosodwr 19 gôl mewn 46 gêm gynghrair i Bristol City y tymor diwethaf, ac fe gafodd ei enwi yn nhîm y tymor gan yr EFL.

Mae Reid wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda'r Adar Gleision, ac mae'r rheolwr Neil Warnock yn dweud fod ganddo'r "gallu i sgorio ar y lefel uchaf".

Y gred yw bod y golwr Alex Smithies wedi ymuno o Queens Park Rangers am ffi o tua £3.5m.

Image copyright Cardiff City

Bydd Smithies yn herio Neil Etheridge am safle'r golwr, a dywedodd Warnock y bydd yn rhaid iddo "ymladd am ei le yn y tîm".

Mae'r golwr, chwaraeodd 108 o gemau i QPR ers iddo ymuno yn 2015, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Adar Gleision.

Mae Caerdydd bellach wedi ychwanegu pedwar chwaraewr at y garfan haf yma, gan ddilyn yr ymosodwr Josh Murphy a'r amddiffynnwr chwith Greg Cunningham.

Straeon perthnasol