GIG yn 70: Yr her o ddenu meddygon i ardaloedd gwledig

Gwasanaeth Iechyd 70

Wrth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddathlu pen-blwydd yn 70 yr wythnos hon, mae 'na ddigon o bwyso a mesur ar gyflwr y gwasanaeth ar hyn o bryd.

Dydy materion fel rhestrau aros, canslo llawdriniaethau a chymeradwyo meddyginiaethau fyth ymhell o'r penawdau.

Pwnc arall sy'n codi ei ben yn gyson yw prinder meddygon, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae Gwion Jones yn feddyg teulu sy'n gweithio ym Mhen-y-groes yng Ngwynedd, a gofynnodd BBC Cymru Fyw iddo rannu ei brofiadau a'i weledigaeth i'r dyfodol.


Image copyright Gwion Jones

Yn 2015, wedi dros 11 mlynedd o hyfforddi, roeddwn bellach yn feddyg teulu.

Penderfynais ei fod yn hen bryd i mi ddychwelyd i fy nghynefin yng Ngogledd Cymru, ond ni wyddwn beth oedd yn fy nisgwyl.

Rwy'n cofio un o fy hyfforddwyr yn tynnu fy nghoes gan ddweud mai fi fuasai'r unig feddyg yng ngogledd Cymru, ac y buaswn yn ôl yn y de cyn diwedd y flwyddyn.

'Gweld cyfle'

Gwyddwn ychydig am broblemau meddygon teulu yr ardal, ond lle gwelodd o drafferth, gwelais i gyfle.

Gadewais gynhadledd feddygol Gymraeg sawl blwyddyn yn ôl gyda phoced yn llawn o gardiau busnes, wedi i feddygon teulu yno sylwi mai Gog oeddwn i ar fin gorffen hyfforddi.

Ond mae'n gam mawr mynd yn bartner. I ddeall pam, bydd ychydig o gefndir yn gymorth.

Annibyniaeth

Nid yw pawb yn gwybod fod meddygon teulu yn annibynnol o'r GIG - bod cytundeb rhyngddynt i gynnal gwasanaeth iechyd.

Pan sefydlwyd y gwasanaeth iechyd yn 1948, ceisiodd Aneurin Bevan berswadio meddygon teulu i dderbyn cyflog, ond fe wrthodon nhw.

Image caption Gwrthododd meddygon teulu gynnig Aneurin Bevan ym 1948 i gael eu cyflogi gan y gwasanaeth iechyd

70 mlynedd yn ddiweddarach, mae meddygon teulu yn parhau i fod yn annibynnol.

Golyga hyn fod gan feddygfa deuluol, fel unrhyw fusnes arall, bartneriaid yn gyfranddalwyr.

Os yw meddygon yn gadael y feddygfa, mae'r holl gyfrifoldeb yn disgyn ar lai o ysgwyddau.

Gallai meddygon adael fesul un, nes bod y baich yn ormod i'r partneriaid neu'r partner sydd ar ôl.

Os yw'r pwysau'n drech, byddant yn terfynu eu cytundeb, ac fel arfer bydd y bwrdd iechyd lleol yn camu i'r bwlch a rhedeg y sioe.

Fel arall mae'r partner neu'r partneriaid yn gorfod talu arian diswyddo i'w staff a allai eu difetha yn ariannol, heb sôn am adael miloedd o gleifion heb feddyg.

Oherwydd yr ymroddiad o fod yn bartner roeddwn yn awyddus i weithio yn y Gogledd ar sail wahanol, i gychwyn o leiaf.

Roeddwn yn ffodus o gael swydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd yn swnio'n ddelfrydol:

  • Buasant yn fy nghyflogi a'm cyflenwi i feddygfeydd ar delerau ffafriol.
  • Buaswn yn treulio hanner yr wythnos yn cael hyfforddiant mewn maes arbenigol - fe ddewisiais dermatoleg.
  • Buasai manteision eraill hefyd, er enghraifft cefnogaeth ariannol i astudio, a talu fy yswiriant meddygol.
  • Buaswn hefyd yn cylchdroi o gwmpas meddygfeydd gwahanol.
  • Gallwn ddod i'w hadnabod, ac os oedd cyfle, efallai ymuno gyda nhw fel partner.

'Chwyldro'

Mae ambell i wleidydd yn awyddus i lawer mwy o feddygon teulu gael eu cyflogi mewn ffordd debyg i mi.

Credant nad yw'r drefn gyfredol yn addas bellach, a bod rhaid cael chwyldro yn y ffordd mae cyflenwad iechyd teulu'n cael ei gynnal.

Dywedant y gall meddygon ganolbwyntio ar feddygaeth yn hytrach na rhedeg busnes, gyda'r holl anhawsterau a pheryglon sydd ynghyd â hynny.

Gyda llu o feddygon, gall y bwrdd iechyd redeg gwasanaethau mewn ardalaoedd sydd wedi ei chael hi'n anodd denu meddygon.

Mae Cricieth wedi terfynu eu cytundeb yn ddiweddar ac mae meddyg cyflogedig bellach yno i roi cymorth.

Bydd meddygfa Porthmadog yn terfynu ei chytundeb ym Medi, gyda'r bwrdd iechyd yn cymryd drosodd, ac mae nifer o feddygfeydd Pen Llŷn dan straen cynyddol.

Rwyf i bellach mewn meddygfa ym Mhen-y-groes, a gafodd sylw yn y wasg y llynedd oherwydd y diffyg meddygon Cymraeg yn yr ardal.

Mae'n rhaid cael newidiadau arloesol i osgoi argyfwng yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac efallai mai symud oddi wrth gytundeb annibynnol yw un ateb.

Wrth gwrs nid yw pawb yn gytûn ar hyn.

Gormod o reolaeth?

Cred rhai meddygon teulu y buasai newid i fod yn gyflogedig yn cymryd gormod o reolaeth oddi arnynt, sy'n golygu nad ydynt yn gallu ymateb i anghenion lleol eu cleifion.

Wrth fod yn gyflogedig bydd meddyg yn atebol i reolwyr GIG, fydd â blaenoriaethau gwahanol iawn iddyn nhw. Buasai amodau gweithio bellach yn bryder eilradd.

Mae bod yn gyfranddalwr yn gymhelliant i ymroi i'r ardal leol ac i ddatblygu gwasanaethau'n greadigol.

Heb graidd o feddygon ymroddgar buasai llai o arloesi. Efallai bydd gan fwrdd iechyd yr hawl i symud meddyg i feddygfeydd fel bo'r angen yn galw, Fe allai hynny wneud i waith cyflogedig deimlo'n ansefydlog iawn.

Elw i'w wneud

Nid yw pawb mewn dŵr poeth. Mae digon o feddygon teulu yn gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd.

Gellir gwneud elw uchel gydag amgylchiadau gweithio derbyniol a sefydlog.

Mewn arolwg diweddar, dywedodd 50% o feddygon teulu y buasant yn fodlon symud tuag at system gyflogedig.

Buasai 40% yn gwrthod - fuasai'n gwneud gorfodi newid yn anodd iawn.

Fy marn i yw bod angen cymysgedd o'r ddau.

'Yr her eithaf'

Gallai meddygfeydd llewyrchus barhau i gynnal gwasanaethau da, tra bo'r rhai gyda'r angen yn cael cefnogaeth gan y bwrdd iechyd.

Ond i ddenu meddygon ifanc tuag at waith cyflogedig, rhaid cynnig tâl digonol, cefnogaeth, a manteision eraill fel hyfforddiant arbenigol.

Methiant fydd y ddwy system gyda phrinder meddygon.

Mae'n rhaid eu denu i gefn gwlad i weithio - honno yw'r her eithaf.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol