Beirniadu nifer y dosbarthiadau dros dro mewn ysgolion

dosbarthiadau
Image caption Mae bron i 700 o ddosbarthiadau dros dro neu adeiladau datodadwy yng Nghymru

Mae undeb athrawon wedi beirniadu nifer y cabanau dros dro sy'n parhau i gael eu defnyddio i ddysgu plant yng Nghymru.

Yn ôl gwaith ymchwil gan BBC Cymru Fyw mae bron i 700 o adeiladau dros dro neu symudol yn parhau yn rhan o'r tirlun addysgol, gan gynnwys rhai dros 40 oed.

Dywedodd yr NASUWT fod y "defnydd sy'n parhau o adeiladau datodadwy dros dro yn tanlinellu'r anghydraddoldeb sy'n bodoli o fewn y gyfundrefn addysg yng Nghymru".

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn dweud bod modd dadlau fod y sector addysg Gymraeg wedi "dioddef yn anghymesur" oherwydd twf yn y galw amdano.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r cynllun buddsoddi presennol yw'r "buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers yr 1960au", gan amddiffyn eu gwariant ar addysg cyfrwng Cymraeg.


Rhai cabanau dros 40 oed

Fe wnaeth pob un o gynghorau Cymru ymateb i gais Cymru Fyw am nifer y cabanau dros dro, ond dim ond hanner wnaeth ddarparu ateb am oed yr adeiladau.

  • Dywedodd dros 70% o'r rheiny fod ganddynt adeiladau dros dro yn hŷn na 22 oed (cyfnod ad-drefnu llywodraeth leol);
  • Roedd Caerffili yn nodi rhai dros 40 oed;
  • Roedd pedair sir arall yn nodi rhai dros 30 oed.

Caerdydd sydd â'r nifer uchaf o ddosbarthiadau dros dro - 116 - ac mae 70 yn Sir Gaerfyrddin. Ym Merthyr Tudful mae'r nifer isaf, sef tri.

Methodd cynghorau eraill ateb y cwestiwn ynglŷn ag oedran, neu ddatgan nad oedd y wybodaeth yn cael ei gadw yn ganolog.


Mae Rex Phillips, swyddog gyda'r NASUWT, yn dweud fod yr undeb am weld mwy o newid ac yn "disgwyl fod cael gwared ar ddosbarthiadau dros dro yn uchel ar griteria ar gyfer ceisiadau i gael arian o gronfa'r llywodraeth".

Dywedodd yr NASUWT, er eu beirniadaeth, eu bod yn "cydnabod yr ymdrech mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud wrth gynnal ei rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif er gwaethaf mesurau llymder San Steffan".

Mae mudiad RhAG wedi dweud y gallai nifer y cabanau mewn defnydd ddangos bod y sector addysg Gymraeg wedi dioddef oherwydd twf yn y galw.

Dywedodd llefarydd: "Mae'n deg nodi bod siroedd wedi gorddibynnu ar gabanau yn hytrach na mynd i'r afael hefo'r angen i agor ysgolion newydd.

"Nodwn fod diffyg cyllid i godi ysgolion Cymraeg, proses gynllunio sy'n araf deg a diffyg blaengynllunio strategol, oll yn ffactorau sydd wedi cyfrannu at hyn."


Diwedd oes i bum caban

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Atgofion wrth ffarwelio â hen gabanau ysgol yn Sir Gâr

Yr wythnos hon fe ddaeth oes pump o'r dosbarthiadau dros dro i ben, wrth i ysgol cyfrwng Cymraeg newydd Porth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin agor ei drysau.

Tan yr wythnos diwethaf roedd y cabanau, tri dwbl a dau sengl, ynghyd ag adeiladau'r hen ysgol yn darparu lle ar gyfer 275 disgybl.

Fe fydd lle ar gyfer 315 o fewn yr adeilad newydd, ynghyd â 45 o lefydd meithrin.

Dywedodd Lisa Mitchell, rhiant sydd hefyd yn gynghorydd cymuned, ei bod hi wedi gweld nifer y cabanau yn tyfu wrth i'r galw am addysg Gymraeg gynyddu.

"Pan oedden ni 'na blynyddoedd yn ôl roedd un caban, ond fe wnaeth e dyfu yn gloi wedyn - bwyti 10 mlynedd yn ôl neu fwy."


'Buddsoddiad mwyaf'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud iddyn nhw weud y "buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers yr 1960au", gan amddiffyn eu gwariant ar addysg Gymraeg.

Dywedodd llefarydd bod y llywodraeth am i bob disgybl gael addysg mewn adeilad "addas" a bod "tua £400m" wedi ei wario ar "godi neu adnewyddu ysgolion Cyfrwng Cymraeg rhwng 2014 a 2019".

Ychwanegodd bod y llywodraeth "wedi clustnodi o leiaf £460m ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg" yn rhan nesaf rhaglen gyllido Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Dywedodd bod cyfanswm o £1.4bn wedi ei fudsoddi yn rhan gyntaf y rhaglen, sydd wedi "hen basio ei tharged" o ailadeiladu neu ailwampio 150 o ysgolion a cholegau.

Image caption Ysgol newydd Parc y Tywyn

"Mae gwella cyflwr ysgolion wedi bod yn allweddol i bob un o'n prosiectau, ac mae traean ohonynt yn ymwneud yn benodol â gwneud i ffwrdd ag adeiladau ysgolion dros dro, gan osod rhai newydd yn eu lle.

"Fodd bynnag, ein partneriaid mewn llywodraeth leol ac mewn colegau addysg bellach sy'n blaenoriaethu'r prosiectau, gan nodi pa rai sydd fwyaf priodol a pha mor gyflym y dylid eu cyflawni.

"Mae hwn yn arian sydd wedi ei ffocysu yn benodol ar sicrhau cynnydd tuag at y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050."

'Adnoddau o safon uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod gan yr awdurdodau lleol record wych wrth fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion.

"Erbyn diwedd Band A o raglen gyllido Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif fe fydd £1.4bn wedi ei fuddsoddi mewn adeiladu - gyda hanner yr arian yn dod o awdurdodau lleol a'r hanner arall o Lywodraeth Cymru."

Ychwanegodd fod y ffocws yn rhan gyntaf y rhaglen wedi bod ar ostwng nifer y llefydd gwag mewn ysgolion, tra bydd y ffocws yn yr ail ran ar wella cyflwr yr adeiladau neu ystâd bresennol.

"Does neb yn gwadu maint yr her ond mae'r awdurdodau wedi darparu gwasanaeth ac adnoddau o safon uchel yn y cyfnod mwyaf anodd a pharhaus o ran toriadau sydd wedi ei weld yng Nghymru."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol