Tân yn difrodi gwesty Neuadd Dolgerddon yn Rhaeadr

  • Cyhoeddwyd
Neuadd DolgerddonFfynhonnell y llun, Anna Poulton

Mae diffoddwyr wedi bod yn brwydro yn erbyn tân mawr mewn gwesty ym Mhowys.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod y fflamau wedi cynnau yn Neuadd Dolgerddon yn Rhaeadr toc wedi 12:30 ddydd Llun.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mae criwiau wedi cael eu gyrru yno o Landrindod, Llanfair-ym-muallt, Llanidloes a Llanwrtyd.

Dywedodd llefarydd nad oes unrhyw adroddiadau bod unrhywun wedi eu hanafu.

Ffynhonnell y llun, Annie Jones
Disgrifiad o’r llun,
Mae difrod amlwg i'w weld o ganlyniad i'r tân
Ffynhonnell y llun, @annaspanner1983