Marwolaeth Cyprus: Dyn i wynebu cyhuddiad o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
charlie birchFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Charlie Birch ei ddarganfod yn farw ar 24 Mehefin

Bydd dyn 35 oed yn wynebu achos llys ar ynys Cyprus wedi ei gyhuddo o lofruddio Cymro fis diwethaf.

Cafodd y dyn ei gyhuddo wedi marwolaeth Robert James Birch, 39 o'r Trallwng ym Mhowys - oedd yn cael ei adnabod fel Charlie.

Cafodd Mr Birch ei ddarganfod yn farw ger Paphos ar 24 Mehefin.

Bydd y dyn hefyd yn wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl i ddyn arall ei anafu yn y digwyddiad.

Wedi ymddangosiad byr yn y llys ddydd Llun, cafodd yr achos ei gyfeirio at lys troseddol. Mae disgwyl i'r achos hwnnw ddechrau ym mis Awst.

Mae dynes 23 oed gafodd ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi ei rhyddhau heb gyhuddiad.