Tân yn gorfodi pobl o'u tai
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Fflamau yn lledaenu am dros filltir ar Fynydd Cilgwyn

2 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 22:06 BST

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymateb i "dân mawr" ar fynydd Cilgwyn, ger Caernarfon.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 1800 ddydd Llun i bentref Carmel ger Caernarfon i adroddiad fod tân mawr ar y mynydd.

Mae tua 15 o deuluoedd wedi cael cyngor i baratoi i adael eu cartrefi wrth i dros 40 diffoddwr tân geisio diffodd y fflamau sydd wedi lledaenu am dros filltir ar hyd y mynydd.

Dywedodd Lisa Jones sy'n byw yng Ngharmel wrth BBC Cymru Fyw nad ydi hi "erioed wedi gweld tân debyg i hyn o'r blaen."