Golwg ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Yr Athro Ceri Phillips

A hithau'n union 70 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr Athro Ceri Phillips, sy'n athro mewn economeg iechyd, sydd yn dadansoddi dyfodol y GIG yng Nghymru.

Mae darpariaethau o wasanaethau iechyd ac ehangder yr adnoddau sydd ei angen wedi bod y pwyntiau trafod gwleidyddol mwyaf dadleuol yn hanes Llywodraeth Cymru, ac i ddweud y gwir ar gyfer holl lywodraethau'r byd datblygedig.

Mae Adroddiad y Sefydliad Iechyd - Y Ffordd i Gynnaladwyaeth: Ariannu prosiectau ar gyfer GIG Cymru i 2019/20 a 2030/31, gafodd ei gyhoeddi yn 2015, yn dadlau fod angen cymryd camau yn syth er mwyn taclo'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r gwasanaeth a sicrhau dyfodol hir dymor y GIG yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, mae'r adolygiad seneddol o ofal iechyd a chymdeithasol yng Nghymru yn adlewyrchu'r ffaith fod gwariant ar ofal iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn ennill y blaen ar gynnydd yng nghyfoeth y wlad.

Tra bod y pwyslais ar geisio sicrhau mwy o werth o ran yr adnoddau sydd ar gael, mae'n gwbl glir fod "cynnaladwyaeth" angen ymrwymiad aml ochrog a radical os am daclo'r syniad o ddilema gofal iechyd.

Image copyright PA

Mae'r prosiect wedi'i anelu at ddiweddaru'r astudiaeth y Sefydliad Iechyd drwy archwilio i ba raddau y mae'r rhagdybiaethau sylfaenol wedi codi yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf, a goblygiadau newid ar y senarios a ddisgwylir i ddigwydd.

Mae adroddiad y Sefydliad Iechyd yn awgrymu y byddai gwariant yn cynyddu i £10.4bn (prisiau 2016/17) yn y flwyddyn 2030/31, yn ddibynnol ar nifer o dybiaethau, i ddarparu safon y gwasanaethau presennol.

Ond, o ganlyniad i newid yn yr amgylchiadau, rydym yn darogan bydd gwariant yn debygol o fod yn nes ar £11bn yn y tymor hir, ac wrth edrych ar dybiaethau presennol bydd angen gwario £7.3bn yn ychwanegol, fyddai'n golygu cyfanswm o £13.6bn - sy'n cyfateb i 52% o gyllid Llywodraeth Cymru.

Mae amcangyfrifon o'r fath yn ddibynnol ar dybiaethau. Os yw amgylchiadau yn newid, ac os, er enghraifft fod cyllid Llywodraeth Cymru yn cynyddu i gyd-fynd gyda chynnydd yn y GDP, bydd gwariant iechyd yn cyfateb i 57% o'r cyllid.

Os fydd y gofyn am y gwasanaethau yn cynyddu ar gyfradd ychydig yn uwch na'r disgwyl, bydd y gwariant ychwanegol fyddai ei angen yn fwy na £11bn, ac yn golygu 66% o gyllid Llywodraeth Cymru.

Image copyright Getty Images

Ar y llaw arall byddai ailstrwythuro radical o ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yng Nghymru, gan sicrhau gofal a thriniaeth mewn lleoliadau optimwm, yn sicrhau byddai cynnaladwyaeth y GIG Cymru yn cael ei gadw yn gymesur â chyllid Llywodraeth Cymru.

Yn ychwanegol, byddai lleihau a rheoli'r lefel o ran pwysau ar y gwasanaethau iechyd a sicrhau fod adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithiol yn galluogi codi arian yn y mesur cyflog, heb beryglu cyfradd bresennol o gyllid Llywodraeth Cymru sydd wedi'i neilltuo i ofal iechyd.

Byddai hynny yn annog gweithwyr ac yn cynorthwyo'r broses recriwtio a chadw gweithwyr proffesiynol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol