Arestio dyn mewn cysylltiad ag 'ymosodiad car' Caerdydd

Bwyty a bar Miss Jones yn Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Merthyr yn yr Eglwys Newydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn mewn cysylltiad ag "ymosodiad gyda cherbyd" yng Nghaerdydd.

Fe gafodd dyn 27 oed o Drelái ei arestio ym Maes Awyr Gatwick ddydd Mercher mewn cysylltiad â'r digwyddiad ble gafodd dyn 34 oed ei anafu.

Mae'r llu wedi bod yn ymchwilio i adroddiadau bod car wedi ei "yrru'n fwriadol ar gyflymder at grŵp o bobl" ar Ffordd Merthyr yn oriau man 30 Mehefin.

Mae trefniadau mewn lle i gludo'r dyn sydd wedi cael ei arestio yn ôl i Gaerdydd er mwyn ei holi.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio i'r cyhoedd am luniau ffôn, CCTV neu dash cam.

Mae'r dyn gafodd ei anafu bellach gartref o'r ysbyty ac yn "ymwybodol o'r datblygiadau," yn ôl yr heddlu.

Straeon perthnasol