Arestio pump wedi ymosodiad ar fenyw yn Hwlffordd

West Court, Hwlffordd Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i West Court yn Hwlffordd nos Fawrth

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i ddynes gael ei hanafu mewn digwyddiad yn Hwlffordd nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal West Court tua 20:40 yn dilyn adroddiadau fod rhywun wedi ymosod ar unigolyn.

Mae'r ddynes bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys ddydd Mercher eu bod wedi arestio dwy ddynes 28 oed a dau ddyn 28 a 27 oed ar amheuaeth o achosi niwed corfforol.

Mae dyn arall 24 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o ymosod drwy guro, ac mae'r pump yn parhau yn y ddalfa.

Pynciau Cysylltiedig