Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

Lewis Hunter Gilmour Image copyright Heddlu De Cymru

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr M4.

Roedd Lewis Hunter Gilmour, 37 oed, yn dod o Glasgow.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar y ffordd ger cyffordd 47 tua'r gorllewin, Penllergaer am tua 01:20 fore Llun.

Dywedodd teulu Mr Hunter Gilmour - sydd yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol - eu bod nhw wedi eu "syfrdanu a'u llorio" gan ei farwolaeth.

Roedd Mr Hunter Gilmour yn gerddor ac yn athro, a dywedodd un o'i ffrindiau y bydd yna "golled ar ei ôl".

Mae gyrrwr y cerbyd arall yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101, a dyfynnu'r cyfeirnod *242267.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol