Pump wedi prynu traeth Saundersfoot, Sir Benfro

Saundersfoot Image copyright Getty Images
Image caption Mae'n arferiad mynd i nofio yn Saundersfoot ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn

Mae traeth poblogaidd yn Sir Benfro wedi cael ei brynu gan gonsortiwm o bump o bobl.

Cafodd rhydd-ddaliad a hawliau masnachu traeth Saundersfoot eu rhoi ar werth yr haf diwethaf am £250,000.

Mae bod yn berchen ar y ddwy erw o dir yn rhoi'r hawl i werthu hufen iâ a rhentu offer chwaraeon dŵr.

Dywedodd un o'r perchnogion, Stevie Roach: "Mae'n plant wedi treulio pob haf yma. Mae'n hyfryd ac ry'n am ei gadw felly."

Penderfynodd y cyn-berchnogion Adrian a Nicola Alford werthu'r darn o dir ar ôl 10 mlynedd am fod diddordebau eraill wedi mynd â'u bryd.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae traeth Saundersfoot yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Dywedodd Mrs Roach, un o'r perchnogion newydd, na chymerodd hi'n hir i ffurfio consortiwm.

"Ein bwriad yw cael busnesau annibynnol i fod yng ngofal y gweithgareddau.

"Dyw hi ddim yn fwriad gennym i newid rhyw lawer ar bethau - mae yma gymuned fywiog a phobl sy'n edrych ar ôl y traeth a'n dymuniad ni yw diogelu hynny."

Straeon perthnasol