Sussex yn trechu Morgannwg yn y T20 yng Nghaerdydd

Luke Wright Image copyright Getty Images
Image caption Luke Wright oedd seren Sussex gyda sgôr o 88

Cafodd Morgannwg eu trechu yn y T20 Blast gan Sussex yn yr haul yng Nghaerdydd brynhawn Sul.

Fe lwyddodd Morgannwg i gyrraedd 173-4 ar ddiwedd eu 20 pelawd, gyda'r capten Colin Ingram yn serennu dros y tîm cartref gyda sgôr o 81 heb fod allan.

Ond fe wnaeth yr ymwelwyr lwyddo i gyrraedd y targed o 174 gyda phelawd, ac wyth wiced, yn weddill.

Eu capten nhw, Luke Wright, wnaeth eu harwain gyda sgôr o 88, gyda Laurie Evans hefyd yn sgorio 65 heb fod allan.

Hon oedd colled gyntaf Morgannwg yn y gystadleuaeth y tymor yma, wedi iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch T20 trwy drechu Hampshire yn Southampton nos Wener.

Straeon perthnasol