xxx
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Dim digon o gefnogaeth i blant ag anableddau

9 Gorffennaf 2018 Diweddarwyd 06:50 BST

Mae pobl ifanc gydag anableddau dysgu yn cael eu "gwthio i'r cyrion a'u cadw o'r golwg", yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd yr Athro Sally Holland nad ydyn nhw'n derbyn y gefnogaeth y maent â hawl gyfreithiol iddo.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi eisoes eu bod yn gwella gwasanaethau.

Fe wnaeth yr Athro Holland edrych ar brofiadau pobl ifanc gydag anableddau dysgu wrth iddyn nhw droi'n oedolion ac mae'r dystiolaeth, meddai, yn dangos bod rhaid meddwl eto sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu.