Achub 38 person o draeth ger Llandudno

Traeth Llandudno Image copyright Google
Image caption Mae'r traeth yn Llandudno yn gyrchfan boblogaidd yn ystod tywydd braf

Bu'n rhaid i 38 o bobl gael cymorth gan wasanaethau achub brynhawn Sul am eu bod ar fin cael eu hynysu gan y llanw ger Llandudno.

Cafodd dau gwch achub a Gwylwyr y Glannau gydag offer diogelwch eu galw i gynorthwyo'r bobl, a oedd yn cynnwys teuluoedd gyda babanod a chyplau gyda'u cŵn.

Fe lwyddodd y timau achub i dywys y grŵp oddi ar gefnen o dywod funudau'n unig cyn i'r llanw orchuddio'r lle.

Chafodd neb eu hanafu.

Pynciau Cysylltiedig