Sunderland yn derbyn cynnig Abertawe am asgellwr

Joel Asoro Image copyright Rex Features

Mae Sunderland wedi derbyn cynnig gan Abertawe am yr asgellwr 19 oed o Sweden, Joel Asoro.

Y gred yw bod y ffi yn tua £2m am chwaraewr y mae rheolwr newydd yr Elyrch, Graham Potter wedi bod yn edmygu ers ei gyfnod yn rheoli Ostersunds FK.

Fe wnaeth Asoro ymuno gyda Sunderland o IF Brommapojkarna yn 2015, a chwarae 29 o weithiau dros y clwb y tymor diwethaf.

Ar y llaw arall mae dau glwb o Dwrci, Besiktas a Galatasaray, wedi holi ynghylch arwyddo ymosodwr Abertawe, Andre Ayew.

Mae'r clwb eisoes wedi gwrthod cynnig gan Fulham am frawd Ayew, Jordan.

Ond maen nhw wedi bod mewn trafodaethau gyda West Brom ynglŷn â gwerthu'r amddiffynnwr Kyle Bartley.

Pynciau Cysylltiedig