Arestio dau ddyn wedi lladrad arfog ar Ynys Môn

Four Crosses Image copyright Google
Image caption Cafodd y dyn ei fygwth gyda chyllell y thu allan i dafarn y Four Crosses ym Mhorthaethwy

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dau ddyn wedi lladrad y tu allan i dafarn ar Ynys Môn ddydd Llun.

Cafodd swyddogion eu galw toc wedi 09:30 wedi adroddiadau fod dyn wedi cael ei fygwth gyda chyllell y tu allan i dafarn y Four Crosses ym Mhorthaethwy.

Mae dyn 30 oed a dyn 22 oed, y ddau o ardal Bangor, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ladrata ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd DC Sioned Copeland o'r llu: "Rydym yn apelio am unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu gyda ni.

"Rydym hefyd yn awyddus i siarad gydag unrhyw un welodd gerbyd VW Golf, Mark 4 - rhif AF02 UGG yn yr ardal."

Ni chafodd y dyn ei anafu yn y digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig