Harry Wilson yn arwyddo cytundeb 'hir dymor' â Lerpwl

Harry Wilson Image copyright Getty Images

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Harry Wilson, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda chlwb pêl-droed Lerpwl.

Roedd y chwaraewr 21 oed ar fenthyg am hanner y tymor diwethaf yn Hull, gan sgorio saith gôl mewn 13 o gemau.

Dywedodd Lerpwl bod y cytundeb yn un "hirdymor".

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 2013 yn 16 oed, ac mae bellach wedi chwarae dros ei wlad bedair gwaith.