Cynghrair y Pencampwyr: Shkendija 5-0 Y Seintiau Newydd

Y Seintiau Newydd Image copyright Getty Images

Colli'n drwm wnaeth Y Seintiau Newydd yn erbyn KF Shkendija yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr nos Fawrth.

Roedd y Seintiau wedi teithio i Skopje ym Macedonia ar ôl ennill Uwch Gynghrair Cymru am y seithfed tro ym mis Mawrth.

Ond roedd Shkendija'n drech na nhw, yn sgorio dwy gôl yn yr hanner cyntaf a thair yn yr ail - Besart Ibraimi yn sgorio pedair o'r rheiny.

Mae 'na dalcen caled iawn yn wynebu'r Seintiau pan fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yng Nghroesoswallt ar 17 Gorffennaf.

Bydd yr enillwyr dros y ddwy gêm yn wynebu enillydd y gêm rhwng FC Torpedo Kutaisi o Georgia a FC Sheriff o Moldova.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol