'Diffyg gofal lliniarol i gleifion' medd adroddiad

Gofal lliniarol Image copyright Amelie-Benoist / BSIP/SPL

Nid yw tua 6,000 o bobl sydd â chyflyrau sy'n byrhau eu bywydau neu salwch angheuol yn cael y gofal arbenigol y gallen nhw elwa ohono bob blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd.

Daeth grŵp trawsbleidiol o ACau ar ofal lliniarol hefyd i'r casgliad bod prinder meddygon teulu, nyrsys ardal a nyrsys pediatrig cymunedol yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau gofal yn y gymuned.

Mae angen gofal lliniarol ar tua 23,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, ond yn ôl yr adroddiad dydy chwarter y rheiny ddim yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru'n croesawu'r adroddiad, ond yn gwrthod y ffigyrau ac yn dweud ei fod yn darparu dros £8.4m y flwyddyn ar ofal lliniarol.

Rhwystrau

Mae'r adroddiad yn dweud fod pobl sydd â dementia, methiant ar y galon a chyflyrau niwrolegol yn wynebu nifer o rwystrau wrth geisio cael y gofal, a bod y ddarpariaeth yn anghyson drwy Gymru.

Fe ddylai'r cleifion hynny gael yr hawl i ofal yn y cartref, hosbis neu gartref gofal, yn ogystal ag ysbytai.

Mae'r adroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion:

  • Galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun grymus i fynd i'r afael a staffio gofal lliniarol, a blaenoriaethu nyrsys ardal a nyrsys pediatrig cymunedol;
  • Galw ar fyrddau iechyd i sicrhau gwasanaeth tu hwnt i oriau arferol ar draws Cymru, gan gynnwys ariannu gwasanaethau pediatrig tu hwnt i oriau arferol;
  • Galw ar ddarparwyr gofal lliniarol i addysgu cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol am y gwasanaethau sydd ar gael.
Image caption Dywedodd Mark Isherwood AC fod nifer o heriau i'w gorchfygu

Dywedodd Mark Isherwood AC, cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, fod nifer fawr o heriau i'w gorchfygu, ond bod yna enghreifftiau o waith arloesol: "Mae cynllun cyfunol yn seiliedig ar gydweithio o fewn y GIG a'r sector wirfoddol yn hanfodol os ydyn ni i wella mynediad i ofal hosbis neu ofal lliniarol i bawb yng Nghymru yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r argymhellion yn darparu "ffocws ychwanegol" a'u bod eisiau i bobl gael mynediad i ofal diwedd oes "o ansawdd uchel".

"Dyna pam rydyn ni'n darparu dros £8.4m yn flynyddol i gefnogi gwasanaethau lliniarol arbenigol a delifro ein cynllun Gofal Diwedd Oes, " dywedodd.

Serch hynny, gwrthododd yr awgrym nad oedd 6,000 o bobl Cymru'n cael y gofal diwedd oes arbenigol y gallen nhw elwa ohono.

Pynciau Cysylltiedig