Arestio merch 16 oed wedi tân mewn tŷ ym Mhorth Tywyn

Tan

Mae merch 16 oed wedi ei harestio yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn trin y digwyddiad ar Stryd Mansel fel un amheus.

Cafodd criwiau o Lanelli, Cydweli a Gorseinon eu galw am tua 09:30 ar 10 Gorffennaf, ac fe gafodd dynes ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Dywedodd yr heddlu bod y ferch wedi ei chadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac maen nhw'n apelio am wybodaeth.

Ychwanegodd yr heddlu y byddai swyddogion ychwanegol yn yr ardal ddydd Mercher.

Pynciau Cysylltiedig