Gwyn eu byd tu hwnt i glyw

Rwy'n siŵr fy mod wedi crybwyll hyn o'r blaen ond fe gynhaliwyd y refferendwm cyntaf ar Ewrop ar fy mhen-blwydd yn ddeunaw oed yn ôl yn 1975. Dyna i chi anrheg berffaith i anorac ifanc - pleidlais ar ben-blwydd a honno, meddai nhw, yn bleidlais a fyddai'n effeithio ar ddyfodol Cymru a Phrydain am genedlaethau i ddod.

Roedd hynny'n wir, ond efallai ddim yn y ffordd yr oedd pobol yn darogan!

Mae'n werth cofio, fi'n meddwl, pwy oedd ar ba ochor yn 1975. Roedd bron y cyfan o'r blaid Geidwadol, trwch aelodau seneddol Lafur, y Rhyddfrydwyr a'r rhan fwyaf o fyd busnes o blaid y Farchnad Gyffredin. Ar yr ochr arall i'r ffos roedd rhai o'r undebau llafur, asgell chwith y blaid Lafur, cenedlaetholwyr Cymru a'r Alban, unoliaethwyr Ulster, y National Front a'r diwydiant siwgr.

Afraid yw dweud bod y frwydr braidd yn unochrog!

Nawr, gadewch i ni edrych ar bwy oedd ar ba ochor yn refferendwm 2016. Doedd y Rhyddfrydwyr, y chwith a'r dde eithaf a'r Unoliaethwyr ddim wedi newid eu safbwynt ers 1975. Roedd yr Undebau, y rhan fwyaf o chwith y blaid Lafur a'r Cenedlaetholwyr wedi croesi'r llawr o'r ochor negyddol i'r cadarnhaol.

Ond heb os yn rhengoedd y blaid geidwadol, yn y blaid seneddol ac yn fwyaf arbennig ar lawr gwlad y gwelwyd y newid mwyaf. Fe drodd plaid oedd yn bron yn unfarn o blaid Ewrop yn un lle'r oedd trigain y cant o'i phleidleiswyr yn fodlon anwybyddu cyngor eu Prif Weinidog a phleidleisio dros adael. Ar strydoedd Romford nid y Rhondda y cafodd y mas ei esgor.

Pam y newid? Dyma i chi un esboniad posib.

Mae gan bob cenedl ei fytholeg greiddiol - y straeon hynny sy'n ein clymu at ei gilydd. Yn achos y Cymry mae Llywelyn, Glyndŵr, Patagonia a'r chwyldro diwydiannol i gyd yn y pair yn rhywle gydag ambell i gêm rygbi a ffwtbol wedi eu hychwanegu at y rysáit.

Y tu hwnt i'r clawdd mae mytholeg greiddiol Prydeindod wedi newid dros y degawdau diwethaf.

Dyw'r hen gynhwysion, y Magna Carta, Protestaniaeth a'r Ymerodraeth ddim yn dod a dŵr at ddant y dyddiau hyn. Yn eu lle daeth mytholeg newydd - un sydd wedi eu seilio bron yn llwyr ar rôl Prydain yn yr ail rhyfel byd.

Does ond angen i chi wylio dwy ffilm o'r llynedd, Dunkirk gyda'i milwyr â dannedd perffaith a gwallt trwsiadus a Darkest Hour gyda'r nonsens yna ynghylch Churchill ar y tiwb i ddeall hanfod y chwedl. Chwedl yw hi lle mae Ewrop yn lle llawn peryglon a gelynion a thaw trwy sefyll ar ei thraed ei hun y daw achubiaeth Prydain.

Yn gynharach yr wythnos hon fe fu farw Peter Carrington - yr olaf o weinidogion i wasanaethu yn un o lywodraethau Churchill. Enillodd Arglwydd Carrington y Groes Filwrol yn ystod yr ail rhyfel byd - un o hanner dwsin o ddynion oedd a'r fedal honno yn y cabinet wnaeth ein harwain i mewn i'r Farchnad Gyffredin yn 1972.

Roedd Edward Heath, pennaeth y llywodraeth honno, yn rhan o gyrch D-day ar draethau Normandi ac yn y fan honno fe wnaeth e gwrdd â gwneud cyfaill o filwr Ffrengig o'r enw Maurice Schumann. Schumann oedd ysgrifennydd tramor ei wlad yn ystod llywodraeth Heath.

Ai'r gwahaniaeth felly rhwng Torïaid 1972 a rhai 2016 yw bod y genhedlaeth bresennol yn credu mytholeg yr ail rhyfel byd tra bod rhai'r saithdegau wedi byw trwy'r arswyd ac yn deall ei gwir natur?