Dyn wedi marw yn dilyn tân yn Heol Garner, Wrecsam

tan

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Wrecsam.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i Heol Garner toc wedi 14:20 ar ddydd Mercher.

Mae ymchwiliad bellach yn cael ei gynnal i ddarganfod beth oedd achos y tân.

Mae'r farwolaeth wedi ei chyfeirio at y crwner.

Pynciau Cysylltiedig