Pam symud Parti Ponty 'o'r cyrion' i ganol y dref?
Mae Parti Ponty, gŵyl gerddoriaeth ac adloniant ym Mhontypridd, yn cyrraedd carreg filltir yn 2018 ac yn dathlu 20 mlwyddiant.
Mae'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 14 Gorffennaf, ac am y tro cyntaf mae'n symud o'i leoliad arferol ym Mharc Ynysangharad ar gyrion y dref, i ganol Pontypridd.
Ond pam?
"Yr ateb syml yw am nad ŷ'n ni ym Menter Iaith Rhondda Cynon Taf eisiau i'r Gymraeg fodoli ar y cyrion," esbonia Einir Siôn, prif weithredwr y fenter iaith sy'n trefnu'r ŵyl.
"Dydyn ni ddim eisiau i bobl orfod cymryd cam sydd y tu hwnt i hyder y mwyafrif a chamu oddi ar eu llwybr arferol i ganol byd y Cymry Cymraeg.
"Ry'n ni eisiau cymryd y cam tuag atyn nhw a chwalu'r ffin sy'n bodoli rhwng y Cymry 'di-Gymraeg' a'r rhai sydd wedi cael y fraint o ddysgu'r iaith hynafol, arbennig hon."

Dywed Einir fod "teimladau hanesyddol" yn achosi "ofn a diffyg gwybodaeth am yr iaith" yn yr ardal heddiw.
"Dydy neilltuo'r Gymraeg i gilfachau saff ddim yn mynd i newid y teimladau hyn," meddai.
"Felly, rhaid cymryd camau bras a dewr; nid i addysgu'r boblogaeth fel y cyfryw, ond yn hytrach i gynnig mwynhad torfol unedig trwy gyfrwng y Gymraeg gyda breichiau agored i bawb.
"Mae'r ŵyl hon yn ŵyl i bobl y sir a thu hwnt ac yn ymateb yn flynyddol i anghenion a gofynion ei phobl.
"Pwy ŵyr sut bydd yn esblygu. Dewis y bobl yw hynny.
"Dydy hi ddim yn fwriad gennyn ni i ddatblygu clôn o unrhyw ŵyl arall. Mae pobl a busnesau Rhondda Cynon Taf yn barod i agor eu breichiau i holl gynigion a manteision eu hiaith a'u diwylliant."
Annog pobl i wario yn y dref
Mae'r Fenter yn canolbwyntio ar ddarparu'r adloniant ar dri llwyfan yn nhref Pontypridd ac er mwyn annog pobl i ddefnyddio busnesau lleol dydyn nhw ddim yn trefnu arlwywyr na bar eu hunain.
"Rŷ'n ni'n annog ein mynychwyr i wario, bwyta ac yfed ym musnesau'r dref," meddai Einir Siôn.
"Ni sy'n darparu'r adloniant a chaiff y busnesau lleol fasnachu a gweld budd a manteision gweithredu'n Gymraeg.
"Nid gŵyl un diwrnod yn unig yw hon ond penllanw blwyddyn o hyrwyddo, datblygu a darparu cyfleoedd Cymraeg i bobl y sir."
Mae'r bandiau sy'n cymryd rhan yn cynnwys Candelas, Mei Gwynedd, Yr Oria, Fleur de Lys a Ragsy ac mae pentref ieuenctid yno hefyd - yr Ieuenctref - fydd yn cynnwys gweithgareddau cyfrifiadurol, gwyddonol, cerddorol a gemau ffair.
Mae'r ŵyl yn cynnal nifer o weithgareddau ac adloniant teuluol hefyd a gweithgareddau a sgyrsiau wedi eu trefnu yng Nglwb y Bont, clwb Cymraeg Pontypridd.
"Bydd y parti yn dechrau ac yn gorffen yng Nghlwb y Bont gyda Ffenestri yn canu eu clasuron o'r 80au ar y nos Wener ac arlwy anhygoel o gerddoriaeth ar y nos Sadwrn," meddai Einir Siôn.
"Dewch allan o'ch cilfachau saff a dewch i ymuno yn ein parti stryd gynhwysfawr.
"Pam symud i ganol y dref? Am ei bod yn bryd mynd â'r Gymraeg at bawb, heb ffin, heb feirniadaeth, heb ofynion y tu hwnt i fwynhad ... gyda'n gilydd.
"Mae'r amser wedi dod i symud i ganol ein cymunedau, nid i aros ar y cyrion i fodloni ein hanghenion ein hunain. Mae'n bryd i ni gymryd y camau bras tuag at y Cymry di-Gymraeg yn hytrach na disgwyl iddyn nhw ddod atom ni o hyd."
Am yr holl wybodaeth am yr ŵyl ewch i: www.partiponty.cymru