Cwpl yn ddieuog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder

Liam Rosney a Victoria Rosney
Image caption Liam a Victoria Rosney yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae barnwr wedi rhoi cyfarwyddyd fod gŵr a gwraig o Gei Conna yn ddieuog o gyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn gwrthdrawiad angheuol rhwng car a seiclwr 75 oed.

Bu farw Carol Boardman, mam y seiclwr Olympaidd Chris Boardman, ddiwrnod wedi'r gwrthdrawiad yng Nghei Conna, Sir y Fflint, ym mis Gorffennaf 2016.

Ddydd Iau yn Llys y Goron yr Wyddgrug, fe roddodd y barnwr Rhys Rowlands QC gyfarwyddyd i'r rheithgor i ddychwelyd rheithfarn ddieuog yn achos Liam a Vicoria Rosney, y ddau yn 32 oed ac wedi eu cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Image copyright Chris Boardman
Image caption Fe wnaeth Chris Boardman drydar llun a rhoi teyrnged i'w fam yn dilyn ei marwolaeth

Yn dilyn ei sylwadau, cafodd y rheithgor eu rhyddhau o'u dyletswyddau.

Fe fydd Liam Rosney nawr yn wynebu achos newydd ar 17 Rhagfyr yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a chyhuddiad arall o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.