Cynghrair Europa: Cei Connah 1-3 Shakhtyor Soligorsk

Cwpan Cynghrair Europa Image copyright EPA
Image caption Mae'r Bala a Derwyddon Cefn eisoes allan o'r gystadleuaeth

Mae Cei Connah wedi colli o 3-1 ar faes Belle Vue yn Y Rhyl yn y cymal cyntaf yn erbyn Shakhtyor Soligorsk yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Rhoddodd Max Ebong yr ymwelwyr o Felarws ar y blaen wedi 19 munud cyn i Elis Bakaj ddyblu'r fantais gyda chic rydd ar ôl ychydig dros hanner awr o chwarae.

Daeth trydedd gôl y tîm o Felarws o gic rydd arall, gyda Mikhail Shibun y tro hwn yn taro ergyd isel i gefn y rhwyd gyda chwarter awr i fynd.

Yn y munudau olaf fe lwyddodd Callum Morris i sgorio cic o'r smotyn i roi llygedyn o obaith i'r Nomadiaid cyn yr ail gymal yr wythnos nesaf.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol