Morgannwg yn trechu Essex yn y T20 Blast

Chris Cooke Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Sgoriodd Chris Cooke 60 rhediad gan arwain Morgannwg at y fuddugoliaeth

Llwyddodd Morgannwg i drechu Essex mewn gem hynod o agos yn y T20 Blast.

Essex oedd yn batio gyntaf gan lwyddo i gyrraedd 167 cyn cael ei bowlio allan.

Dechreuodd Morgannwg eu batiad yn dda wrth i Khawaja a Donald daro cyfanswm o 65 rhediad cyn i fowlio campus gan Zampa a Bopara roi'r fantais i Essex.

Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd eu targed o 167 ym mhelawd olaf y gêm gyda Cooke yn serennu.

Gorffennodd y tîm o dde Cymru gyda chyfanswm o 171-8 ar ddiwedd yr ugain pelawd, gan drechu Essex o ddwy wiced.

Dyma'r ail fuddugoliaeth i Forgannwg y tymor hwn ar ôl curo Hampshire yn Southampton ar benwythnos cyntaf y tymor.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol