Arestio dau wedi gwrthdrawiad angheuol ym Mlaenau Gwent

Blaenfon, Brynmawr Image copyright Google
Image caption Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ym Mrynmawr.

Mae Heddlu Gwent wedi arestio dau ddyn yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mlaenau Gwent fore Sadwrn.

Bu farw un dyn ar ôl i gar VW Polo fod mewn gwrthdrawiad ar ffordd Blaenafon, Brynmawr.

Mae'r llu yn apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad un car a ddigwyddodd tua 03:05 fore Sadwrn.

Mae dau ddyn 21 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Pynciau Cysylltiedig