Nofiwr oedd ar goll ger traeth Y Mwmbwls wedi marw

The Mumbles coastline in Swansea Image copyright Geograph/Lewis Clarke
Image caption Cafodd y nofiwr ei ddarganfod oddi ar draeth Y Mwmbwls

Mae nofiwr fu ar goll wedi marw wedi i wylwyr y glannau ddod o hyd iddo yn y môr.

Fe alwodd gwylwyr y glannau Heddlu'r De wedi i'r dyn gael ei ganfod oddi ar draeth Y Mwmbwls, ger Gwesty'r Marriott am 21:15 nos Sadwrn.

Roedd y Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn bresennol ac aed a'r dyn i Ysbyty Treforys lle cafwyd cadarnhad ei fod wedi marw.

Mae ei deulu agos wedi cael gwybod.